Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 (‘y Rheoliadau’) yn gorfodi cyfyngiadau ar gynulliadau, ar symudiadau pobl, ac ar weithrediaeth busnesau, gan gynnwys cau busnesau, yng Nghymru. Maent hefyd yn gorfodi gofynion ar fusnesau sydd ar agor i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unigolion yn cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Gwnaed hyn er mwyn diogelu pawb rhag lledaeniad syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2). 

O dan reoliad 3(2) mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am ofynion a chyfyngiadau yn y rheoliadau, a’u cymesuredd, bob 21 o ddiwrnodau. Cwblhawyd y pedwerydd adolygiad ar 18 Mehefin ac fe gynhelir yr adolygiad ffurfiol nesaf erbyn 9 Gorffennaf.  

Ar 19 Mehefin, fe ymrwymais i adolygu’r gofyniad i aros yn lleol gyda’r bwriad o godi’r cyfyngiad hwn ar 6 Gorffennaf os oedd yr amodau’n caniatáu.

Mae nifer yr achosion newydd o COVID-19 a gadarnhawyd wedi parhau i leihau ers y brig yn y nifer o achosion ym mis Ebrill. Dros yr wythnos hyd at 22 Mehefin, roedd cyfartaledd o 16 o achosion newydd wedi’u cadarnhau i bob miliwn o bobl yng Nghymru bob dydd. Yn ogystal â hyn, mae’r gallu i brofi a’r nifer cyfartalog o brofion dyddiol yn parhau i gynyddu.

Ond rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o achosion yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf o ganlyniad i glystyrau yn y Gogledd ac ym Merthyr Tudful. Mae hyn yn pwysleisio nad yw’r risg wedi diflannu. Mae’r achosion newydd hyn wedi’u hadnabod yn gyflym ac rydym yn credu eu bod wedi’u rheoli. Y tu allan i’r clystyrau hyn rydym yn dal i weld nifer yr achosion yn lleihau ar draws Cymru. Byddwn yn dal i fonitro’r sefyllfaoedd hyn yn agos wrth inni nesáu at yr adolygiad ffurfiol nesaf ar 9 Gorffennaf.

Rwy’n ddiolchgar i gymunedau lleol, awdurdodau lleol ac atyniadau ymwelwyr awyr agored sydd wedi defnyddio’r pythefnos ers 18 Mehefin i baratoi mannau cyhoeddus ar gyfer codi’r cyfyngiad ‘aros yn lleol’ yn unol â Chanllawiau Mannau Cyhoeddus Mwy Diogel Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 17 Mehefin. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y mannau hynny yn barod i dderbyn ymwelwyr yn fwy diogel na phe byddem wedi codi’r cyfyngiadau’n ddirybudd.    

Rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith y bydd peidio â gallu teithio i weld ffrindiau a theulu sy’n byw y tu allan i ardal leol wedi’i chael ar lesiant pobl. Rwy’n ddiolchgar iawn i bobl Cymru am barhau i gadw at y cyfyngiad hwn ac am ddeall ein dull bwriadol a gofalus o lacio’r cyfyngiadau, sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ein prif amcan o hyd yw Diogelu Cymru.

Rwy’n falch iawn o roi gwybod bod yr amodau yn gyffredinol yn awr yn fy ngalluogi i gadarnhau y byddwn ni’n codi’r cyfyngiadau ‘aros yn lleol’ o ddydd Llun 6 Gorffennaf.

Bydd hyn yn galluogi atyniadau awyr agored i agor os ydynt yn gallu sicrhau y gellir cadw pellter cymdeithasol rhwng pobl a gweithredu’n ddiogel. Mae’n rhaid i atyniadau dan do aros ar gau a bydd hyn yn cael ei adolygu eto yr wythnos nesaf. Bydd esboniadau o’r Rheoliadau ar gael i osgoi unrhyw ddryswch.

Ochr yn ochr â’r camau hyn i lacio’r cyfyngiadau, a hefyd o 6 Gorffennaf, bydd pobl o ddwy aelwyd ar wahân yn cael ymuno i ffurfio un aelwyd estynedig. Bydd hwn yn drefniant rhwng y ddwy aelwyd dan sylw yn unig, a fydd yn galluogi pawb yn yr aelwyd estynedig i ymddwyn fel pe baent yn byw fel un aelwyd unigol. Bydd hyn yn galluogi teuluoedd a ffrindiau i ddod at ei gilydd unwaith eto, i gael cyswllt corfforol ac aros yn nhai ei gilydd. Rydym yn gwneud hyn yn bennaf i fynd i’r afael â’r materion sylweddol sy’n gysylltiedig â llesiant ac iechyd meddwl pobl sydd wedi bod yn unig ac yn ynysig, yn ogystal ag i roi cymorth angenrheidiol i rieni sy’n gweithio a rhieni eraill gyda gofal plant anffurfiol, ac i gynorthwyo pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth ehangach.

I helpu i reoli lledaeniad coronafeirws, dim ond dwy aelwyd fydd yn cael dod ynghyd i ffurfio un aelwyd estynedig ar hyn o bryd. Pan fydd aelodau un aelwyd yn penderfynu pa aelwyd arall y maent eisiau uno â hi, bydd y trefniant hwn yn sefydlog am y dyfodol rhagweladwy. Os yw unrhyw aelod o’r aelwyd estynedig yn datblygu symptomau COVID-19, bydd angen i bob aelod o’r aelwyd estynedig hunanynysu hyd yn oed os nad ydynt yn byw gyda’i gilydd.

Mewn rhai achosion, yn enwedig mewn teuluoedd mawr neu mewn tai a rennir, gall hyn olygu gwneud dewisiadau anodd. Os bydd aelwydydd estynedig yn canolbwyntio ar y rhai hynny sydd angen y mwyaf o ofal a chymorth, rwy’n gobeithio y bydd y rhai hynny sydd heb eu cynnwys, fel rhai aelodau o deuluoedd estynedig, yn deall ac yn adnabod pwysigrwydd blaenoriaethu’r unigolion sydd angen cymorth fwyaf. Yn anffodus, oherwydd nad yw’r feirws wedi diflannu, mae angen inni wynebu’r dewisiadau hyn gyda’n gilydd. Wrth ystyried y dewisiadau hyn rwy’n erfyn ar bobl i wneud y canlynol:

  • Meddwl am bwy sydd angen cymorth a phwy fyddai’n manteisio fwyaf o greu aelwyd estynedig. Efallai y bydd angen mwy o gymorth ar rai nag ar eraill, neu efallai bod ganddynt fwy o anghenion.
     
  • Meddwl am y risgiau. Pobl sy’n agored i niwed neu sy’n gwarchod eu hunain fyddai’n manteisio fwyaf o’r trefniadau hyn, ond mae angen deall a lliniaru’r risgiau ychwanegol (e.e. drwy gadw aelwydydd estynedig yn fychan).
  • Meddwl am y canlyniadau. Os yw unrhyw un mewn aelwyd estynedig yn mynd yn sâl, bydd rhaid i bawb hunanynysu am 14 diwrnod. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar rai pobl nag ar eraill, ac mae angen meddwl am hyn yn ofalus.

Diolch i ymdrechion pawb dros y misoedd diwethaf, rydym wedi gweld lleihad yn y nifer o achosion newydd o’r coronafeirws – ond nid yw wedi diflannu. Gwelwyd golygfeydd siomedig yn yr wythnos ddiwethaf lle bu pobl yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol a gadael symiau sylweddol o sbwriel ar hyd y lle. Nid ydym eisiau i nifer fach anghyfrifol o bobl beryglu’r rhyddid hwn yr ydym wedi gweithio mor galed i’w sicrhau.

Mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb personol i gadw pellter cymdeithasol a pharchu’r amgylchedd a’r canllawiau lleol wrth fwynhau’r rhyddid a ddaw o lacio’r cyfyngiadau, gan ein galluogi i deithio ar draws Cymru a’r DU.

Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion parhaus i fynd i’r afael â’r feirws hwn. Gyda’n gilydd gallwn Ddiogelu Cymru.