Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â’r ymrwymiad a wnaethpwyd yn y Pwyllgor Cyllid ar 17 Hydref 2013 i adolygu’r Ddeddf dair blynedd wedi iddi ddod i rym, rwyf wedi comisiynu adolygiad o’r Ddeddf Rheoli Ceffylau (Cymru).    

Cyflwynwyd y Ddeddf i ymateb i alwadau am weithredu brys gan Awdurdodau Lleol, elusennau ceffylau a’r Heddlu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o bori anghyfreithlon, a ceffylau a merlod yn crwydro ac yn cael eu gadael ledled Cymru.  Mae’r ddeddf yn un o nifer o ddulliau sydd ar gael i Awdurdodau Lleol sy’n dymuno mynd i’r afael â phori anghyfreithlon, trwy ddarparu pwerau cyfreithiol effeithiol.  Mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi yr un pwerau cyfreithiol i Awdurdodau Lleol ymafael yn y ceffylau, eu cadw, gwerthu, gwaredu a’u lladd heb greulondeb, wedi iddynt fodloni rhybuddion a therfynau amser penodol, pan fo ceffylau ar dir heb awdurdod cyfreithiol neu heb gydsyniad y perchennog.  

Mae Equiventus Ltd, cwmni sy’n arbenigo ym maes darparu gwasanaethau archwilio a chofnodi ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â ceffylau, wedi eu comisiynu i gynnal yr adolygiad.  Bydd yr adolygiad yn ceisio gwerthuso gwerth ac effeithiolrwydd y Ddeddf.  Bydd yn helpu i sicrhau bod y Ddeddf yn addas at y diben a phan fo Awdurdodau Lleol wedi defnyddio, neu yn defnyddio’r ddeddfwriaeth, sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion y Ddeddf.  

Bydd yr adolygiad yn casglu tystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid a’r rhai hynny sydd â diddordeb, gan geisio dangos sut y mae’r Ddeddf wedi cyfrannu at reoli pori anghyfreithlon, ceffylau yn crwydro ac yn cael eu gadael ers i’r Ddeddf gael ei chyflwyno.  

Rydym wedi gofyn i Equiventus Ltd gynhyrchu’r adroddiad terfynol, gyda chasgliadau ac argymhellion erbyn diwedd Ebrill 2017, ac wedi hynny fy mwriad yw cyhoeddi’r adroddiad ac ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.