Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2019, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o’r cynnydd y mae pob un o’r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i wneud wrth ddatblygu cronfeydd cyfun.

Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar Reoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol weithio gyda’i gilydd a chyfuno adnoddau mewn perthynas ag arfer swyddogaethau llety cartref gofal ar gyfer pobl  dros 65 oed.

Gwnaethom gomisiynu KPMG fel partner darganfod i’n helpu i brofi aeddfedrwydd cyllidebau cyfun, y trefniadau comisiynu ar y cyd ac i ddeall y cynlluniau datblygu ar gyfer gwella yn y dyfodol ym mhob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r adroddiad terfynol, sy’n darparu asesiad cyffredinol o’r holl ranbarthau, ynghyd â gwerthusiad unigol o bob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae’r adroddiad yn cydnabod yr heriau a brofwyd wrth ddatblygu cronfeydd cyfun effeithiol. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud, rwy’n credu bod modd cyflawni rhagor.

Er bod Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn bodloni’r gofyniad deddfwriaethol sylfaenol o gyfuno cronfeydd ar hyn o bryd, nid ydynt yn bodloni’r bwriad llawn y tu ôl i’r rheoliadau eto nac yn gweithredu yn ysbryd partneriaeth a chydweithredu.

Mae’r adroddiad hefyd wedi amlygu amrywiadau amlwg ar draws Cymru a meysydd cyfunol i’w gwella. Drwy weithio gyda chadeiryddion y saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rwy’n gobeithio gweld cynnydd yn digwydd yn fwy sydyn yn y maes pwysig hwn.

Fodd bynnag, rwy’n cydnabod bod y ffocws ar hyn o bryd, o ran ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n partneriaid gofal cymdeithasol, ar ymateb i bandemig y coronafeirws – a hynny’n ddigon priodol hefyd.

Rwyf wedi gofyn i gadeiryddion y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am eu cynlluniau gwella sy’n nodi sut y byddant yn mynd i’r afael â’r naw argymhelliad a nodir yn yr adroddiad, gan gynnwys sut y byddant yn defnyddio adnodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, sydd wedi bod ar gael ers haf 2019, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cronfeydd cyfun.

Rwy’n disgwyl i’r cynlluniau gryfhau trefniadau cronfeydd cyfun a nodi’r camau y gellir eu cymryd ar lefel Cymru gyfan i rannu’r hyn a ddysgwyd. I gefnogi’r dull gweithredu hwn, rwyf wedi gofyn i’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol weithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu gwaith comisiynu rhanbarthol a chyfuno adnoddau.

Mae’r adroddiad gan KPMG ar gael yma: https://llyw.cymru/defnydd-byrddau-partneriaeth-rhanbarthol-o-gyllidebau-cyfun-ar-gyfer-llety-mewn-cartrefi-gofal