Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (Deddf 2013) yn ei gwneud yn ofynnol i bob prif gyngor fonitro’r cymunedau a’r trefniadau etholiadol ar gyfer y cymunedau hynny yn ei ardal.

Mae’r adolygiadau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn adlewyrchu natur gyfnewidiol pob cymuned, ei phoblogaeth a’r cynlluniau ar gyfer ei datblygu, er mwyn sicrhau bod gan bob cymuned gynrychiolaeth ddemocrataidd deg a chyfartal o fewn strwythur y llywodraeth leol.

O dan Ddeddf 2013, gall cyngor naill ai gynnal ei adolygiad cymunedau ei hun, neu gall gytuno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn) gynnal yr adolygiad ar ei ran. O dan yr ail drefniant, mae’n ofynnol i’r Comisiwn gyflwyno ei adroddiad a’i argymhellion i Weinidogion Cymru benderfynu yn eu cylch.

Mae’r Comisiwn wedi cwblhau adolygiad ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro 

Morgannwg. Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r argymhellion, ynghyd â’r sylwadau a dderbyniwyd, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ddoe i’w hysbysu o’m penderfyniad i gytuno ar yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn adroddiad y Comisiwn a bod yr argymhellion hynny yn mynd i gael eu gweithredu heb eu haddasu.

Bydd gwaith yn cael ei wneud yn awr i fwrw ati i ddrafftio’r Gorchymyn sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithredu’r penderfyniad hwn. Bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2027. 

Bydd angen ystyried a chynllunio’r paratoadau ar gyfer y trefniadau diwygiedig yn ofalus er mwyn sicrhau bod y broses o bontio o’r strwythurau presennol i’r trefniadau newydd yn mynd rhagddi’n ddirwystr. Rwyf wedi annog y Cyngor i ddechrau trafodaethau â’r cynghorau cymuned yn ardal y Sir cyn gynted â phosibl.