Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth roi ystyriaeth i'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws ar y pryd ar 24 Mawrth 2020, rhoddais addewid i adrodd ar y defnydd o'r pwerau yn y Bil (bellach Deddf Coronafeirws 2020) yn rheolaidd)

Hyd yn hyn mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a'r Coronafeirws wedi'i gwneud gan ddefnyddio pwerau sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na'r pwerau o dan Ddeddf y Coronafeirws. O ganlyniad, nid oes unrhyw adroddiad cryno wedi cael ei ddarparu i aelodau'r Senedd yn ymwneud a'r Ddeddf honno yn unig. Mae datganiadau ysgrifenedig wedi'u cyhoeddi i hysbysu'r Aelodau fod y ddeddfwriaeth bwysicaf yn ymwneud â'r coronafeirws wedi'u gwneud (er enghraifft, yn ymwneud â'r brif ddeddfwriaeth ar gyfyngiadau'r coronafeirws), ond nid yw'n arfer safonol ar gyfer pob eitem o is-ddeddfwriaeth.

I helpu i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn ymwneud â'r coronafeirws, mae'r holl ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a'r coronafeirws a wneir gan Weinidogion Cymru (naill ai trwy offeryn statudol (OS) neu ffurf arall ar is-ddeddfwriaeth) wedi'i chyhoeddi ar wefan llyw.cymru a chydag un tudalen ar y safle lle y cyhoeddir y deddfwriaeth hon. Mae hyn yn adlewyrchu'r  pwys yr ydym yn ei roi ar dryloywder wrth ddefnyddio'r pwerau anarferol o eang a roddir gan ddeddfwriaeth ym maes iechyd y cyhoedd.  Mae offerynnau statudol hefyd yn parhau i gael eu cyhoeddi ar wefan legislation.gov.uk.

Rydym bellach yn cyhoeddi adroddiad cyntaf i'r Senedd ar deddfwriaeth sy'n cael ei gwneud yn ymwneud â'r coronafeirws. Er mai adrodd yn unig ar y defnydd o bwerau o dan Ddeddf 2020 oedd fy ymrwymiad gwreiddiol, mae'n fwy ystyrlon darparu adroddiad sy'n cynnwys yr holl is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r coronafeirws a wneir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru, nid deddfwriaeth yn unig sy'n deillio o Ddeddf 2020.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i gyhoeddi yn: https://senedd.wales/laid%20documents/gen-ld13409/gen-ld13409-w.pdf

Caiff yr adroddiad hwn ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd a bydd yn rhoi manylion meysydd megis:

  • y defnydd o bwerau (neu gadarnhad nad oes pwerau wedi'u defnyddio);
  • y diwygiadau i'r brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud a chyfyngiadau, gan gynnwys rheoliadau ‘teithio’
  • yr holl is-ddeddfwriaeth arall sy'n cael ei gwneud (gan gynnwys OSau a, lle bo modd, is-ddeddfwriaeth nad yw'n OSau megis cyfarwyddydau, hysbysiadau a datganiadau).

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.