Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi chweched adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), sy'n gwneud argymhelliad ar gyfer cyflogau a lwfansau athrawon o fis Medi 2025 ymlaen. Hoffwn ddiolch i IWPRB am greu'r adroddiad. Roedd dwy ran i gylch gwaith eleni, ac felly ar ôl cwblhau eu gwaith mewn perthynas â chyflogau, gofynnais i IWPRB i ystyried amodau gwasanaeth arweinwyr, ac edrychaf ymlaen at gael eu hadroddiad ar y rhan honno o’r cylch gwaith yn nes ymlaen yn y flwyddyn. 

Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru: chweched adroddiad 2025 (Roedd yr amserlen yn dynn eleni, a bydd yr adroddiad Cymraeg ar gael cyn gynted â phosibl, yn sicr erbyn 24 Mehefin fan bellaf).

Yn nhystiolaeth Llywodraeth Cymru i IWPRB, amlinellwyd y cyd-destun ariannol heriol sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion. Dywedwyd hefyd bod angen ystyried fforddiadwyedd, wrth ddarparu gwobr addas i ymarferwyr presennol a sicrhau bod addysgu yng Nghymru yn parhau i ddenu newydd-ddyfodiaid o ansawdd uchel. 

Mae adroddiad IWRPB yn argymell y dylai'r holl gyflogau a lwfansau gael eu cynyddu 4.8% o fis Medi 2025 ymlaen, gan nodi pwysigrwydd recriwtio a chadw.

Roedd awdurdodau lleol ac undebau sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg yn unfrydol yn eu tystiolaeth i IWPRB, ac yn dweud wrthyf yn uniongyrchol pa mor bwysig oedd bod unrhyw ddyfarniad cyflog athrawon yn cael ei ariannu'n llawn. Rwy'n deall yr effaith bosibl y gallai codiadau cyflog heb eu hariannu ei chael ar nifer yr athrawon a'r llwyth gwaith.

Gan gydnabod pwysigrwydd darparu cyllid llawn a chynaliadwy ar gyfer cyflogau athrawon, rwy'n ymgynghori felly ar gynyddu'r holl gyflogau a lwfansau 4% o fis Medi 2025 ymlaen. Er bod hyn yn swm is na'r argymhelliad gan IWPRB eleni, yn 2024/25, llwyddais i wneud dyfarniad cyflog o 5.5%, swm sylweddol uwch na'r argymhelliad gan IWPRB o 4.3%. Mae'r hyn rwy'n ei gynnig felly yn cyfateb i ddyfarniad cyflog o tua 9.7% dros 2024/25 a 2025/26, o'i gymharu â'r cyfanswm o tua 9.3% a argymhellwyd gan IWPRB dros y ddwy flynedd honno.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn neilltuo'r adnoddau angenrheidiol i ariannu'r dyfarniad cyflog a argymhellwyd, byddai angen ailgyfeirio arian sylweddol o feysydd eraill o wariant y Llywodraeth fel cyllidebau ysgolion, yn ogystal â'r cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg i gefnogi cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig gyda chost uwch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. 

Yn eu hadroddiad, mae IWPRB yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i amserlen ar gyfer gweithredu'r argymhellion sydd heb eu cyflawni o Adolygiad Strategol Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru o Strwythur Cyflog ac Amodau Athrawon ac Arweinwyr yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar i bawb fu'n ymwneud â'r adolygiad a'r argymhellion a gynhyrchwyd. 

Er fy mod wedi gallu derbyn yr argymhellion mewn egwyddor, roeddwn yn glir iawn ar y pryd bod hyn yn amodol ar drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac yn amodol ar fedru gweithredu yn gost-niwtral neu drwy gytundeb â rhanddeiliaid y gellid talu costau o gyllidebau presennol awdurdodau lleol neu ysgolion. Rwy'n deall bod hyn wedi bod yn heriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r broses. Fodd bynnag, mae rhai argymhellion eisoes wedi'u gweithredu ac, ynghyd â chyflogwyr ac undebau trwy'r Fforwm Partneriaeth Cyflogau, rydym wedi gallu cynnal ymarfer blaenoriaethu i nodi'r argymhellion mwyaf effeithiol i ddechrau symud ymlaen.

Byddwn nawr yn gweithio i gyflawni'r argymhellion y mae angen dirfawr amdanynt, yn amodol ar ystyriaethau cyllido a gweithio trwy ofynion gweithredu gyda phartneriaid. 

Un maes blaenoriaeth yw parhau â’r camau i symud Cydlynwyr ADY (CADY) i'r raddfa gyflog arweinyddiaeth, fel yr awgrymir ym Mhumed Adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (argymhellion 4 a 5). Mae'r argymhellion hyn yn hanfodol i gydnabod a gwobrwyo'r rôl bwysig sydd gan CADY yn ein system addysg. Dyma pam fy mod heddiw hefyd yn ymgynghori ar newidiadau i'r STPC(W)D i ddod â'r newidiadau hyn i rym.

Rwyf hefyd yn ymrwymo i symud ymlaen ag Argymhellion adolygiad strategol IWPRB i symud tuag at un raddfa gyflog i athrawon (argymhellion 1 a 3). Felly, rwyf hefyd yn ymgynghori ar newidiadau i'r STPC(W)D sy'n dileu'r broses ymgeisio ar gyfer symud o'r brif raddfa gyflog i'r radd gyflog uwch o fis Medi 2025 ymlaen, tra byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu un raddfa gyflog gyfunol a'i strwythur.

Cydweithio gyda'n gilydd, drwy ein dull partneriaeth gymdeithasol, i wobrwyo a chydnabod y gwaith rhagorol y mae athrawon yn ei wneud yma yng Nghymru, yw'r ffordd y byddwn yn parhau i wneud gwelliannau i'n gweithlu addysg. Byddaf nawr yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol erbyn 8 Gorffennaf ar fy ymateb i chweched adroddiad IWPRB a'r newidiadau arfaethedig i'r STPC(W)D. Byddaf yn ystyried pob ymateb i'r ymgynghoriad cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol.