Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw bedwerydd adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB), sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer diwygio cyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2022.

https://llyw.cymru/corff-adolygu-cyflogau-annibynnol-cymru-pedwerydd-adroddiad-2022

Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r IWPRB am gynhyrchu adroddiad mor fanwl sy'n darparu dadansoddiad annibynnol a chynhwysfawr ynghyd ag argymhellion sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwn eu gweithredu i wella cyflogau ac amodau athrawon yng Nghymru.   

Mae'r IWPRB yn gwneud 7 argymhelliad ar gyfer cyflog ac amodau athrawon, ac rwy'n eu derbyn mewn egwyddor, ac yn amodol ar adolygu codiadau 2023 yn barhaus fel y nodir isod.

Mae Atodiad 1 isod yn rhestru'r argymhellion ac yn rhoi crynodeb o'r ymateb i bob un. Yn gryno, mae'r rhain yn cynnwys:

  • cynyddu pob pwynt graddfa statudol ar bob graddfa gyflog, a phob lwfans, 5% ar gyfer 2022/23.
  • cynnydd 3.5% ar gyfer 2023/24, ac adolygu hyn os oes newid arwyddocaol mewn amodau economaidd o'u cymharu â'r rhagamcanion presennol. a
  • cynyddu’r cyflog cychwynnol i athrawon i o leiaf £30,000 o fis Medi 2023.

Rwy'n falch iawn o'n hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion i'r heriau economaidd a chymdeithasol a’r heriau eraill sy'n wynebu Cymru ar hyn o bryd. Rwyf wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn barhau i wobrwyo a chydnabod ein hathrawon yma yng Nghymru drwy'r cyfnod economaidd anodd hwn, a thrwy ein dull partneriaeth gymdeithasol ynghyd ag arbenigedd annibynnol yr IWPRB mae wedi bod yn bosibl i mi wneud y cyhoeddiad hwn heddiw. 

Ar ôl ystyried yn ofalus y cyngor arbenigol, annibynnol hwn a ddarparwyd gan yr IWPRB, rwy'n derbyn yr argymhelliad bod yr holl raddfeydd cyflog statudol a'r holl lwfansau yn cael eu codi 5% o fis Medi 2022. Bydd y codiad hwn mewn cyflog yn arwain at gyflog cychwynnol o £ i athrawon newydd. 28,866 a bydd cyflogau athrawon dosbarth mwy profiadol yn codi i £44,450 - cynnydd o £2,117.

Mae argymhelliad yr IWPRB, o ystyried yr ansicrwydd a’r pwysau economaidd presennol, y dylai dyfarniadau yn y dyfodol o fis Medi 2023 gael eu hadolygu’n barhaus yn rhagofal synhwyrol. Cynigiaf felly y dylid defnyddio’r rhain fel rhagdybiaeth gynllunio, yn amodol ar adolygiad o’r fath. Byddaf yn ailedrych ar yr argymhellion hyn ac yn eu hadolygu fel y bo’n briodol.

Rwyf hefyd yn derbyn mewn egwyddor argymhellion IWPRB, o ystyried yr ansicrwydd a'r pwysau economaidd presennol, y gallai fod angen adolygu dyfarniadau yn y dyfodol; a'u bod ar hyn o bryd yn argymell cynnydd o 3.5% i gyflogau athrawon ar gyfer 2023/24 a chynyddu isafswm cyflog athrawon i gyflog cychwynnol o £30,000 o fis Medi 2023. Byddaf yn ailedrych ar yr argymhellion hyn ac yn eu hadolygu fel y bo'n briodol.

Rwyf hefyd yn croesawu argymhellion yr IWPRB i wella rhai telerau ac amodau allweddol athrawon, yn enwedig dileu'r egwyddor pro-rata lem ar gyfer lwfansau CAD; a'r angen i adolygu’r tâl ar gyfer CADYau. Cytunaf â’r IWPRB mai'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn yw drwy weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol a bydd y camau a argymhellir yn cael eu datblygu drwy weithio mewn partneriaeth gyda chyflogwyr ac undebau athrawon.  

Byddaf nawr yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol yn yr 8 wythnos nesaf ar adroddiad yr IWPRB ac ar fy ymateb i argymhellion allweddol yr IWPRB, gan gynnwys y cynnydd arfaethedig i gyflogau athrawon.

Atodiad 1

Argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a’r camau gweithredu arfaethedig

 

Argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru

Ymateb arfaethedig / camau gweithredu Llywodraeth Cymru

 1

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu pob pwynt graddfa statudol ar bob graddfa gyflog, a phob lwfans, 5% ar gyfer 2022-2023.

Cytuno i ddiweddaru'r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPC(W)D) fel yr argymhellir.

 2

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu pob pwynt graddfa statudol ar bob graddfa gyflog, a phob lwfans, 3.5% ar gyfer 2023-2024. Dylai’r ffigur hwn gael ei adolygu a’i ailystyried os oes newid arwyddocaol mewn amodau economaidd o’u cymharu â’r rhagamcanion presennol.

Diweddaru’r STPC(W)D o fis Medi 2023 ac adolygu’r ffigur yn dilyn newid arwyddocaol mewn amodau economaidd o’u cymharu â'r rhagamcanion presennol.

 3

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu isafswm pwynt cyflog y PYC (P2) i £30,000 ar gyfer 2023-2024.

Cytuno i ddiweddaru STPC(W)D fel yr argymhellwyd yn amodol ar adolygiad fel Argymhelliad 2.

 4

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r FfPC, ddiweddaru ac egluro’r geiriad yn y DCAAY(C) i ymgorffori’r newidiadau a wnaed ers datganoli cyflog ac amodau – yn benodol hygludedd cyflogau, dilyniant ar yr YCU a chyflog yn gysylltiedig â pherfformiad – i adlewyrchu’r argymhellion a wnaed yn flaenorol gan CACAC yn gywir ac yn gyson. Dylid cwblhau’r dasg hon erbyn mis Medi 2022.

Cytuno mewn egwyddor a byddwn yn trafod yn uniongyrchol â’r holl randdeiliaid allweddol lle’n benodol mae angen eglurhad yn STPC(W)D. Yna, lle bo angen, drafftio diwygiadau i ddiweddaru ac egluro geiriad yn yr STPC(W)D mewn partneriaeth â chyflogwyr ac undebau athrawon.

 5

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ddileu’r egwyddor pro-rata y cyfeirir ato yn sylweddol yn adran 40.1 o CDAAY(C) 2022-2023, yn ymwneud ag athrawon rhan-amser sydd yn derbyn CAD1 a CAD2, ac y dylai’r FfPC gytuno, a’i ddisodli gyda geiriad priodol i ddatgan y dylai penderfyniad ar gyfrifoldebau ychwanegol a lefel gymesur dyfarniad gael ei gytuno ar y cyd gan yr athro a’r cyflogwr.

Mewn partneriaeth â'r holl randdeiliaid allweddol, drafftio diwygiadau angenrheidiol i ystyried eu cynnwys yn yr STPC(W)D.

 6

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru, yng ngoleuni natur statudol rôl newydd CADY, sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu’r dyraniad digyswllt a’r gydnabyddiaeth ariannol. Dylai’r grŵp adrodd ei ganfyddiadau erbyn mis Rhagfyr 2023.

Sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen a chytuno ar dyddiad ar gyfer adrodd.

 7

Cyfeiriwn at y tri argymhelliad a wnaed yn ein trydydd adroddiad, h.y. monitro ac adrodd ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb ar lefel ysgol ac awdurdod lleol; arweiniad i lywodraethwyr ysgol ar gyflog ac amodau; a threfniadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar bolisi cyflog enghreifftiol ar lefel genedlaethol, ac yn argymell eu bod yn cael eu gweithredu fel yr ysgrifennwyd yn wreiddiol.

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am statws presennol y 3 eitem hon a sut y bwriedir symud ymlaen â nhw.