Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gael cyhoeddi trydydd adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sy’n ymdrin ag argymhellion ar gyfer diwygio cyflog ac amodau athrawon o fis Medi 2021.

Hoffwn ddiolch i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru am gynhyrchu adroddiad mor fanwl a chynhwysfawr, a hynny er gwaethaf yr anawsterau a’r anhrefn achoswyd gan y pandemig.

Mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn gwneud 12 prif argymhelliad, ac mae’n fwriad gennyf i dderbyn pob un mewn egwyddor, gan anelu at eu gweithredu o 1 Medi. Mae rhestr lawn o argymhellion yr Adroddiad yn Atodiad A. Yn fyr, mae’r rhain yn cynnwys:

  • Uwchraddio’r holl raddfeydd cyflog a lwfansau o 1.75%;
  • Egluro a/neu adolygu’r polisi mewn perthynas â thelerau ac amodau penodol sydd eisoes yn bodoli.

Mae manylion yr ystodau cyflog newydd i athrawon yn Atodiad B.

Cyflog

Mae’n gyfnod ansicr iawn. O gofio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi cyflog yn y sector cyhoeddus, ni chafodd Llywodraeth Cymru unrhyw gyllid ychwanegol drwy fformiwla Barnett ar gyfer dyfarniadau cyflog ar draws y sector cyhoeddus yn 2021-22, ac eithrio’r GIG a’r rheini ar y cyflog isaf.

Penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw hwn, ond mae canlyniadau uniongyrchol i’r penderfyniad hwnnw yng Nghymru.

Mae cyflog athrawon yn elfen sylweddol o gyllidebau ysgolion ac awdurdodau lleol, ac rwy’n ymwybodol iawn o’r gwahanol bwysau sydd ar gyllidebau ar hyn o bryd, o bob cyfeiriad. Costau llawn y cynigion hyn fydd £14.87m yn y flwyddyn ariannol hon, a bydd rhaid canfod hyn o gyllidebau presennol yr awdurdodau lleol. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gadw dyfarniadau cyflog posibl y sector cyhoeddus mewn cof wrth gynllunio cyllidebau eleni, yn sgil y cynnydd ariannol o £176m sydd yn y setliad llywodraeth leol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.

Telerau ac amodau

Rwy’n croesawu’r argymhellion mewn perthynas â thelerau ac amodau ar gyfer athrawon.

Ers datganoli pwerau dros gyflog ac amodau athrawon, rydym wedi torri cwys ein hunain yng Nghymru, drwy gyflwyno nifer o newidiadau allweddol, fel dilyniant cyflog ar sail profiad a graddfeydd cyflog statudol cenedlaethol. Rwy’n croesawu sylwadau Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar y materion hyn, ac rwy’n bwriadu rhoi’r eglurhad ar y materion yr holwyd amdanynt.

Rwyf hefyd yn derbyn yr argymhellion mewn perthynas â’r angen am ymchwil pellach a bod angen i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru gynnal adolygiad cynhwysfawr o strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr. Mae’n hanfodol bod system genedlaethol yn cael ei datblygu yma, sy’n arbennig i Gymru ac sydd nid yn unig yn gwella’r system ond yn creu system decach sy’n fwy tryloyw i’r holl athrawon.

Y camau nesaf

Nawr, byddaf yn croesawu sylwadau ysgrifenedig gan y prif randdeiliaid ar y canlynol: adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru; fy ymateb i’r prif argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru; a’r cynnydd arfaethedig i gyflogau athrawon.

Atodiad A

Mae’r tabl canlynol yn cynnwys yr holl argymhellion gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, fel y’u cyhoeddwyd yn ei Drydydd Adroddiad ar 11 Mehefin 2021, yn ogystal â fy ymateb.

Mae Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru wedi argymell:

argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru

Rhif

Argymhelliad

Ymateb arfaethedig/y camau gweithredu gofynnol

1

Argymhellwn y dylid cynyddu pob pwynt graddfa statudol ar bob graddfa gyflog, a phob lwfans, 1.75% yng nghyd-destun chwyddiant cyfredol a rhagamcanol CPI.

1. Derbyn a diwygio’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

 

2

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru egluro'r gwahaniaeth rhwng pennaeth gweithredol a phennaeth yn yr STPCD(C).

Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad cyfreithiol o bennaeth gweithredol oherwydd bod y rolau a’r cyfrifoldebau’n amrywio, felly:

  1. Cam gweithredu ar unwaith:

Golygu’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) er mwyn i’r gwahaniaeth rhwng pennaeth sy’n gyfrifol am 1 ysgol neu fwy nag un ysgol fod yn fwy eglur;

  1. Tymor hwy

Comisiynu astudiaeth o’r rolau amrywiol sydd gan bennaeth, gan gynnwys darparu diffiniadau ffurfiol i roi eglurder ar deitlau swydd fel “pennaeth gweithredol”.

3

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gynghori cyrff llywodraethu ysgolion i roi ystyriaeth lawn i gyd-destun a chymhlethdod eu sefydliad wrth osod y cyflog ar gyfer penaethiaid sy'n atebol am fwy nag un ysgol, gan ddefnyddio'r pwerau disgresiynol sydd ar gael iddynt yn STPCD(C).

Ysgrifennu at gyflogwyr yn tynnu sylw at yr adran briodol yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

4

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru atgoffa cyrff llywodraethu ysgolion o'u cyfrifoldeb statudol i gytuno polisi cyflog blynyddol i'w hysgol, sy'n cynnwys datganiad am strwythur staffio'r ysgol a'r swyddi sy'n denu taliadau CAD ac i ymgynghori â'r staff ynghylch y polisi cyflog hwn, a'i rannu gyda nhw.

Ysgrifennu at gyflogwyr yn tynnu sylw at yr adran briodol yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

5

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru ymgynghori ar newid yn y ddarpariaeth yn STPCD(C) i ganiatáu i athrawon rhan-amser dderbyn taliadau CAD1 a CAD2 amser llawn, gan gynnwys y gallu i ysgolion ddefnyddio'u disgresiwn eu hunain wrth wneud dyfarniadau o'r fath.

Cynnwys hyn fel rhan o’r adolygiad cynhwysfawr yn Argymhelliad 8 isod.

6

Argymhellwn i Lywodraeth Cymru y dylid cynnwys y diffiniad o hygludedd cyflog mewn set o egwyddorion gorfodol a disgresiynol i'w hymgorffori yn y STPCD(C) o fis Medi 2021.

Derbyn a’i gynnwys yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) newydd.

7

Argymhellwn y dylid ymgymryd â gwaith, ochr yn ochr â gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru), i bennu sut dylid cydnabod Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ariannol.

Cynnwys hyn fel rhan o’r adolygiad cynhwysfawr yn Argymhelliad 8 isod

8

Argymhellwn i Lywodraeth Cymru, yng ngoleuni'r uchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru, cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, a’r gwersi a ddysgwyd o’r pandemig, y dylid ymgymryd ag adolygiad cynhwysfawr er mwyn sicrhau bod strwythur cyflog ac amodau athrawon ac arweinwyr yn cwmpasu’r dyheadau at y dyfodol.

Comisiynu Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i gynnal adolygiad (gan gynnwys y lwfansau y sonnir amdanynt yn 5 a 7 uchod).

9

Argymhellwn, yn y cyhoeddiad nesaf o’r STPCD(C), y dylai Llywodraeth Cymru egluro sefyllfa'r raddfa pum pwynt; dilyniant cyflog a pherfformiad; a dilyniant cyflog ar yr YCU, fel yr argymhellwyd yn adroddiad 2020 yr IWPRB.

Derbyn a’i gynnwys yn y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) newydd.

10

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ar fyrder y ffordd y caiff deddfwriaeth cydraddoldeb ei monitro a'i hadrodd ar lefel ysgol ac awdurdod lleol, ac ystyried a oes angen newidiadau i’r STPCD(C) a pholisïau cyflog ysgolion, er mwyn sicrhau bod ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol mewn perthynas â chydraddoldeb.

LlC i ystyried hyn ac ysgrifennu at gyflogwyr pan fo angen gwneud hynny.

11

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r arweiniad sydd ar gael i lywodraethwyr ysgol am gyflog ac amodau a chyhoeddi llawlyfr llywodraethiant sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd.

LlC i ystyried y canllawiau presennol a rhoi diweddariad i Gyrff Llywodraethu pan fo angen gwneud hynny.

12

Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso trefniadau ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar bolisi cyflog enghreifftiol ar lefel genedlaethol, gan ddileu'r angen felly i'r gwaith hwn gael ei ailadrodd ar draws consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol.

LlC i hwyluso trefniadau ar gyfer helpu sefydliadau cyflogwyr i symud gwaith ar fodel polisi cyflog ymlaen yn y dyfodol, a hynny ar lefel genedlaethol.

Mewn egwyddor, rwy’n bwriadu derbyn yr holl argymhellion a restrir uchod (A1-A12) gan Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.

Atodiad B

Pwyntiau graddfeydd cyflog a argymhellir ar gyfer 2021-2022

Prif Ystod Cyflog Athrawon
Pwynt graddfa 2020 2021
M2 (isafswm) £27,018 £27,491
M3 £29,188 £29,699
M4 £31,436 £31,986
M5 £33,912 £34,505
M6 £37,320 £37,973
Ystod Uwch Cyflogau Athrawon
Pwynt graddfa 2020 2021
U1 £38,690 £39,367
U2 £40,124 £40,826
U3 £41,604 £42,332
Athrawon heb Gymhwyso
Pwynt graddfa 2020 2021
1 £18,169 £18,487
2 £20,282 £20,637
3 £22,394 £22,786
4 £24,507 £24,936
5 £26,622 £27,088
6 £28,735 £29,238
Ymarferwyr Arweiniol
2020 2021
£42,402 - £64,461 £43,144 - £65,589
Ystodau Lwfansau
Math o lwfans 2020 2021
TLR1 £8,291 - £14,030 £8,436 - £14,276
TLR2 £2,873 - £7,017 £2,923 - £7,140
TLR3 £571 - £2,833 £581 - £2,883
ALN £2,270 - £4,479 £2,310 - £4,557
Ystodau Cyflog Grŵp Arweinyddiaeth
Pwynt graddfa 2020 2021
1 £42,195 £42,933
2 £43,251 £44,008
3 £44,331 £45,107
4 £45,434 £46,229
5 £46,566 £47,381
6 £47,735 £48,570
7 £49,019 £49,877
8 £50,151 £51,029
9 £51,402 £52,302
10 £52,723 £53,646
11 £54,091 £55,038
12 £55,338 £56,306
13 £56,721 £57,714
14 £58,135 £59,152
15 £59,581 £60,624
16 £61,166 £62,236
17 £62,570 £63,665
18* £63,508 £64,619
18 £64,143 £65,266
19 £65,735 £66,885
20 £67,364 £68,543
21* £68,347 £69,543
21 £69,031 £70,239
22 £70,745 £71,983
23 £72,497 £73,766
24* £73,559 £74,846
24 £74,295 £75,595
25 £76,141 £77,473
26 £78,025 £78,025
27* £79,167 £80,552
27 £79,958 £81,357
28 £81,942 £83,376
29 £83,971 £85,440
30 £86,061 £87,567
31* £87,313 £88,841
31 £88,187 £89,730
32 £90,379 £91,961
33 £92,624 £94,245
34 £94,914 £96,575
35* £96,310 £97,995
35 £97,273 £98,975
36 £99,681 £101,425
37 £102,159 £103,947
38 £104,687 £106,519
39* £106,176 £108,034
39 £107,239 £109,116
40 £109,914 £111,837
41 £112,660 £114,632
42 £115,483 £117,504
43 £117,197 £119,248

* Y pwyntiau hyn a phwynt 43 yw’r uchafswm cyflogau ar gyfer yr wyth o ystodau grŵp penaethiaid.