Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2014, fe wnes i benodi Panel o Arbenigwyr i adolygu darpariaeth yr amgueddfeydd yng Nghymru. Gwnaeth y Panel gyhoeddi eu hadroddiad Adolygiad Arbenigol o Ddarpariaeth Amgueddfeydd yng Nghymru 2015  ar 25 Awst 2015. Ar 30 Mawrth blwyddyn diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn eich cynghori am yr argymhellion a fy ymateb.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r diweddaraf i chi am y cynnydd hyd yn hyn. Ym mis Mawrth, fe wnes i gydnabod y byddai gweithredu unrhyw argymhellion yn cymryd amser ond rwyf wedi fy annog gan y cynnydd hyd yn hyn a’r ffaith bod y sector amgueddfeydd yng Nghymru yn ymroi o ddifrif yn y gwaith hwn.

Mae'r sefyllfa ddiweddaraf yn unol â'r argymhellion wedi'i nodi isod:

Argymhelliad 1:  Creu tri Chorff Rhanbarthol
Rwy'n credu bod gweithio rhanbarthol sy'n galluogi cyflenwi ar lefel leol yn darparu gwasanaethau amgueddfeydd mwy effeithiol ac effeithlon i bobl Cymru. Rydym yn gweithio gyda swyddogion amgueddfeydd i nodi’r cyfleoedd a'r heriau sydd ynghlwm â gweithio ar draws ffiniau. Wrth gwrs, Aelodau a Phrif Weithredwyr Awdurdodau Lleol ar draws Cymru sy'n penderfynu a fyddant yn gweithio fel hyn ai peidio, a sut byddant yn gwneud hynny. Rwy'n siŵr y byddant yn ystyried y dystiolaeth sy'n dod o'r astudiaeth hon yn ofalus. Cefais fy annog gan y drafodaeth gadarnhaol ddiweddar a gefais gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Argymhelliad 2: Creu Cyngor Amgueddfeydd Cenedlaethol
Mae Isadran bolisi arbenigol eisoes yn ei lle. Mae swyddogion wedi cynnal trafodaeth gyda grŵp llywio Strategaeth yr Amgueddfeydd, am y posibilrwydd o ehangu eu cylch gwaith i gynnal panel ymgynghori ehangach. Mae'r grŵp llywio wedi cytuno i ystyried hyn.

Argymhelliad 3: Datblygu Siarter Amgueddfeydd
Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu siarter amgueddfeydd drafft sy'n nodi'r hyn y dylai'r cyhoedd ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth amgueddfeydd lleol a sut y gall amgueddfeydd wella'r profiad i ymwelwyr.

Argymhelliad 4: Awdurdodau Lleol i ystyried pob opsiwn wrth adolygu gwasanaethau amgueddfeydd
Yr Awdurdodau Lleol ddylai ystyried yr argymhelliad hwn.  Mae fy natganiad diweddar ar ddiwylliant yn nodi'r sefydliadau diwylliannol, fel amgueddfeydd, sy'n chwarae rôl allweddol wrth adfywio ardal leol.

Argymhelliad 5: Sefydlu Casgliad Cymru
Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cynllun gweithredu i sefydlu Casgliad Cymru. Bydd yn cael ei gyflwyno i swyddogion ym mis Chwefror.

Argymhelliad 6: Datblygu'r gweithlu  
Mae'r Isadran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yn darparu rhaglen o safon uchel ar gyfer datblygu gweithlu, ac mae'n cynnig mynediad at hyfforddiant arbenigol.

Argymhelliad 7: Cronfa trawsnewid
Mae cyllid ar gael i gynnal yr astudiaeth o weithio'n rhanbarthol fel y nodir o dan argymhelliad 1. Bydd darparu cyllid pellach yn dibynnu ar gael cytundeb awdurdodau lleol i gydweithio ar sail ranbarthol. Rwy'n edrych ymlaen at weithredu ar sail y trafodaethau hynny fel rhan o'n hymrwymiad yn y datganiad diwylliant i nodi ffyrdd tecach i ariannu cyfleusterau rhanbarthol a gwella cynaliadwyedd a chydnerthedd.  Rwyf hefyd wedi ymestyn cronfa gyfalaf y Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol i gynnwys amgueddfeydd ac archifau lleol, a chynnal gwelliannau cyfalaf sydd mawr eu hangen.

Argymhelliad 8: Codi tâl mynediad amgueddfeydd
Yr argymhelliad:  Gweithiodd swyddogion gyda Chymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol i archwilio'r problemau ynghylch codi tâl mynediad amgueddfeydd. Cyhoeddwyd yr adroddiad a'r arweiniad ar 8 Medi.
http://www.aim-museums.co.uk/content/evaluating_the_evidence_the_impact_of_charging_or_not_for_admissions_on_museums/

Argymhelliad 9: Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig Cenedlaethol
Bydd rhaid trafod rhyddhad rhag ardrethi fel rhan o drafodaeth ehangach.

Argymhelliad 10: Gwaith cefnogi a datblygu amgueddfeydd Llywodraeth Cymru
Byddaf yn derbyn drafft o gynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer amgueddfeydd i'w ystyried yn gynnar yn 2017. Bydd yn nodi’r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i amgueddfeydd dros y pum mlynedd nesaf a bydd yn ystyried argymhellion yr Adolygiad yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fy natganiad diwylliant sef Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru, a'n Rhaglen Lywodraethu Symud Cymru Ymlaen.