Jeremy Miles, Cabinet Secretary for Health and Social Care
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ynghylch a cyhoeddiad Adroddiad Adolygiad o Lywodraethiant ac Atebolrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Ym mis Ebrill 2025, comisiynodd y cyn Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethiant ac atebolrwydd Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r adroddiad ynghyd ag ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru, sydd ar gael yma.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny
