Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 14 Hydref 2015, cyhoeddais Adolygiad o’r Sector Llaeth yng Nghymru. Cafodd yr adolygiad, ynghyd â'm hymateb, eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2015.


Gwnaeth yr adolygiad argymell bod Llywodraeth Cymru'n: “Cwblhau astudiaeth ymarferoldeb ynglŷn â'r posibilrwydd o safle prosesu llaeth a yrrir gan y farchnad yn ne-orllewin Cymru, er mwyn sicrhau marchnad ddiogel sy’n ychwanegu gwerth ar gyfer y 400 miliwn litr y flwyddyn o laeth Cymru a fydd yn cael eu cynhyrchu erbyn 2020”.


Gwnaeth fy swyddogion gomisiynu adroddiad i weld pa mor ymarferol y byddai i  ehangu'r capasiti ar gyfer prosesu llaeth yn y de-orllewin (dolen allanol). Gwnaeth Brookdale Consulting gynnal yr astudiaeth hon ar ran Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw ar wefan Bwyd a Diod Cymru. 


Mae canfyddiadau'r adroddiad yn bwysig am fod ffermio llaeth yn cyfrannu £271 miliwn y flwyddyn at economi’r de-orllewin. Mae ffermydd llaeth yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi yn y Gymru wledig a hynny wrth i bobl brynu bwyd anifeiliaid, gwrtaith, meddyginiaethau milfeddygol a pheiriannau. Mae'r diwydiant prosesu llaeth yn sicrhau nifer o swyddi mewn ardaloedd gwledig ac mae'r cyflogau hynny'n cael eu gwario'n lleol. Mae hynny'n fodd i gynnal yr economi leol a'r cymunedau gwledig. Mae cysylltiad agos iawn rhwng yr economi wledig ac iechyd y sector laeth yn y de-orllewin.


Mae faint o laeth a gynhyrchir yng Nghymru yn parhau i godi ac yn 2014-15 gwelwyd dros 1.8 biliwn o litrau o laeth yn cael eu cynhyrchu yma,er bod system cwotâu llaeth yr UE wedi cyfyngu ychydig ar hynny y llynedd. Yn ystod y flwyddyn bresennol, mae'r hyn sy'n cael ei gynhyrchu wedi parhau i gynyddu er gwaethaf amodau anodd yn y farchnad. Mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y byddwn yn cyrraedd yr uchelgais o gynhyrchu 2 filiwn o litrau erbyn 2020. Mae'r De-orllewin mewn sefyllfa arbennig i ddod dda ar gyfer dod yn bwerdy rhanbarthol ar gyfer cynhyrchu llaeth yn Ewrop. Mae gan yr ardal fanteision cystadleuol cryf o safbwynt cynhyrchu llaeth. Mae'r hinsawdd yn berffaith ar gyfer tyfu porfeydd, mae ein cynhyrchwyr llaeth ar flaen y gad o safbwynt technoleg ac mae gennym seilwaith modern i gefnogi busnesau fferm teuluol cadarn.


Yng Nghymru, un o’r ffactorau sy’n atal y sector rhag tyfu ymhellach yw’r capastiti isel sydd gennym i brosesu'r llaeth rydym yn ei gynhyrchu. Mae llawer o laeth Cymru'n cael ei gludo allan o'r wlad i'w brosesu. Un peth sy’n galonogol yw bod yr  adroddiad yn amlwg yn dangos yn glir bod gan broseswyr llaeth sydd eisoes yn prynu llaeth mewn ardaloedd o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi'r uchelgais i weld twf pellach. Pe bai hynny'n cael ei wireddu, byddai'r farchnad yn tyfu a byddai modd cwrdd â dyheadau'r ffermwyr o ran ehangu llaeth. Yn benodol, daeth yr adroddiad i'r casgliad bod gan y proseswyr presennol eisoes gynlluniau nodedig ar gyfer ehangu. O ganlyniad i'r cynlluniau hynny, gellid prosesu 350 miliwn o litrau ychwanegol yn y tymor byr/tymor canolig gan ddefnyddio'r seilwaith sy'n bodoli'n barod. Yn y tymor hir, nododd yr adroddiad y gellid cynhyrchu rhwng 700 miliwn a 1 biliwn o litrau ychwanegol pe byddai cynlluniau presennol y cynhyrchwyr yn dwyn ffrwyth. Bydd cystadleuaeth o'r fath am laeth ymhlith proseswyr o gymorth i gadw pris llaeth ar lefel gynaliadwy ac yn helpu i leihau’r litrau sylweddol o laeth o Gymru sy'n parhau i gael eu prosesu y tu allan i'r wlad.


Gwnaeth yr astudiaeth fynd ati i bennu'r potensial ar gyfer sefydlu cyfleuster prosesu llaeth arall yn y De-orllewin a hwnnw'n cael ei ysgogi gan y farchnad. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg mai’r ffordd ymlaen yw ehangu'r cyfleusterau prosesu llaeth sefydledig sy’n bodoli ar hyn o bryd. Byddai hynny'n galluogi ffermwyr llaeth i gynyddu'r hyn y maent yn eu cynhyrchu, cynyddu gwerthiant a diogelu eu dyfodol. Mae'r cynigion ar gyfer ehangu'n seiliedig ar nodi'r galw yn y farchnad ac maent yn cyd-fynd â’r ffocws cryf ar allforio nwyddau llaeth. Drwy eu cynlluniau datblygu, mae'r proseswyr yn mynegi ymdeimlad cryf o hyder yn y sector llaeth. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys cynhyrchion nwyddau a chynhyrchion arloesol sy’n ychwanegu gwerth. 


Mae'n bosibl y bydd modd i'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd roi grant i gefnogi cynlluniau i ehangu ac mae'n bleser gennyf nodi bod y proseswyr yn dangos diddordeb yn y cynllun. Rwyf hefyd yn cefnogi Arloesi Bwyd Cymru. Bydd yn gweithio gyda busnesau llaeth i symud syniadau arloesol yn eu blaen a chreu cynhyrchion o werth uchel. Bydd hynny’n golygu y bydd y cynhyrchwyr llaeth yn gweld llai o amrywiadau yn y prisiau masnachu byd-eang. Yr amrywiadau hynny oedd yn gyfrifol am leihau’r pris a gafwyd wrth y gât yng Nghymru yn ddiweddar. 


Bydd y Llywodraeth yn parhau i gydweithio â'r Bwrdd Arwain Llaeth ac yn parhau i weithio mewn modd intergredig gyda'r sector llaeth. Mae Cyswllt Ffermio yn rhoi cymorth i ffermwyr llaeth ac mae’r Is-adran Fwyd yn cefnogi'r proseswyr i arloesi a datblygu marchnadoedd newydd. Rydym hefyd yn ymgysylltu'n uniongyrchol gyda'r marchnadoedd manwerthu a gwasanaethau bwyd, a hynny gartref a thramor. Mae hynny'n fodd i sicrhau cwsmeriaid newydd ar gyfer ein cynhyrchion o ansawdd. Credaf fod modd inni gyrraedd ein nod o greu sector llaeth cynaliadwy, a hwnnw'n ganolbwynt i dwf economaidd cryf yn yr ardaloedd gwledig. Bydd hynny'n sicrhau manteision i bawb sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r gadwyn cyflenwi a hefyd fanteision yn ehangach yn y cymunedau gwledig.