Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynodd Adran 259 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (“Deddf 2009”) bwerau newydd ar gyfer y Cyfrin Gyngor i roi pwerau dyfarnu graddau sylfaen i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru drwy ddiwygio adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Daeth y ddarpariaeth hon i rym ar 1 Hydref 2010. Mae Adran 259 o Ddeddf 2009 hefyd yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar ei effaith o fewn pedair blynedd i’r dyddiad cychwyn.


O’r herwydd rwy’n gosod adroddiad gerbron y Cynulliad yn unol â’r ddyletswydd a nodir yn adran 259(2) o Ddeddf 2009.