Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ‘Seasonal Influenza in Wales 2016-17’.

Dyma’r prif gasgliadau:

  • Cyrhaeddodd y tymor ffliw yn gynt a chyrraedd ei benllanw’n gynt na’r ddau dymor blaenorol, gan ymledu’n gymedrol yn y gymuned.
  • Roedd cyfradd yr ymgynghoriadau meddyg teulu a’r achosion wedi’u cadarnhau gan ysbytai ychydig yn is na 2015-16.
  • Cafwyd 49 o achosion hysbys mewn cartrefi gofal ac ysbytai.
  • Roedd cyfraddau ymgynghoriadau meddygon teulu ar eu huchaf ymhlith oedolion iau a chanol oed, tra cafodd cyfran uwch o oedolion hŷn a’r henoed ddiagnosis yn yr ysbyty.
  • Influenza A(H3N2) oedd prif fath o feirws. Roedd hyn yn ymddangos yn cydweddu’n dda â’r brechlyn.
  • Roedd canran y grwpiau blaenoriaeth a gafodd frechlyn yn parhau’n sefydlog, ond o ran union niferoedd, cafodd mwy nag erioed o unigolion yng Nghymru frechlyn ffliw yn 2016-17, tua 24% o’r boblogaeth. Cynyddodd y niferoedd wedi’u brechu i 761,838 o gymharu â 730,246 yn 2015-16.
  • Darparwyd 26,889 o frechiadau gan fferyllfeydd cymunedol fel rhan o wasanaeth y GIG, 36% yn uwch na 2015-16.
  • Cynyddodd canran y plant dau i dri oed a gafodd eu brechu gan wasanaeth gofal sylfaenol i 45%.
  • Cynyddodd canran y plant pedwar i saith oed a gafodd eu brechu yn yr ysgol i 67%.
  • Cafodd 77% o fenywod beichiog y brechlyn ffliw.
  • Cynyddodd canran y staff â chysylltiad uniongyrchol â chleifion a gafodd eu brechu i 52% gan barhau â’r patrwm cadarnhaol a rhagori ar y targed o 50% ar gyfer Cymru am y tro cyntaf.

Mae’r niferoedd sy’n cael brechlyn ffliw yma yng Nghymru yn dal i fod gyda’r gorau yn Ewrop, ac mae’r ffaith fod mwy a mwy o bobl agored i niwed yn dewis cael brechlyn ffliw yn deyrnged i waith caled staff y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, mae’r niferoedd mewn rhai grwpiau risg yn dal i fod yn is nag y byddem yn dymuno.

Mae’r gwaith o gynllunio ymgyrch y flwyddyn nesaf eisoes ar droed. Y prif newidiadau ar gyfer 2017-18 yw:

  • Bydd y targed o frechu unigolion dan 65 oed mewn grwpiau risg yn gostwng o 75% i 55%. Llwyddwyd i gyrraedd targed o 55% mewn rhai grwpiau y llynedd, ond mae angen gwella’r niferoedd ar draws pob grŵp risg. Trwy osod targed blynyddol mwy realistig, rydym yn gobeithio gweld gwelliant cynyddrannol o flwyddyn i flwyddyn.
  • Y tymor diwethaf, roedd canran staff rheng flaen y GIG a gafodd frechiad ffliw dros 50% am y tro cyntaf. Rwy’n falch fod mwy a mwy o staff y GIG yn cydnabod eu cyfrifoldeb proffesiynol i ddiogelu’r cleifion mwyaf bregus rhag yr haint, a helpu i leddfu’r pwysau ar y GIG dros y gaeaf. Er mwyn adeiladu ar hyn, rydym yn cynyddu’r targed brechu o 50% i 60% ar gyfer 2017-18.
  • Mae tystiolaeth newydd o gyflwyno’r rhaglen frechu reolaidd mewn ysgolion cynradd mewn rhannau eraill o’r DU yn dangos bod brechu plant iau yn gallu cael cryn effaith ar leihau’r feirws ffliw sy’n mynd ar led yn y gymuned a, thrwy effaith dorfol, yn lleihau ymgynghoriadau meddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau o’r ffliw. Yn 2017-18, byddwn ni’n ehangu’r rhaglen brechu plant yng Nghymru i gynnwys blwyddyn ysgol ychwanegol h.y. blwyddyn 4. Bydd y gwasanaeth nyrsio ysgol yn cynnig brechlyn ffliw i blant y dosbarthiadau derbyn a rhai blwyddyn 1 i 4 (oedran pedwar i wyth). Byddwn yn dal i gynnig brechlyn i blant dwy-dri oed trwy’r gwasanaeth gofal sylfaenol.
Yn 2018-19, bydd y rhaglen brechu plant yn cynnwys dwy flwyddyn ysgol ychwanegol, h.y. blynyddoedd 5 a 6. Bydd hyn yn golygu y bydd holl blant ysgolion cynradd Cymru yn cael cynnig y brechlyn ffliw yn yr ysgol o 2018-19 ymlaen.

Ym mis Medi, byddaf yn cwrdd â chyrff proffesiynol a sefydliadau perthnasol eraill i sicrhau bod trefniadau ar waith i helpu i ddarparu rhaglen frechu lwyddiannus rhag y ffliw yn 2017-18.

Mae fersiwn lawn o’r adroddiad ‘Seasonal Influenza in Wales 2016-17’ (Saesneg yn unig) ar gael yn:

http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=457&pid=55714

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.