Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gosododd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyladwy i hawliau plant wrth arfer eu swyddogaethau, ac i gyhoeddi adroddiad yn esbonio sut maent wedi cydymffurfio â'r ddyletswydd. 

O dan ein Cynllun Hawliau Plant, rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd a hanner. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r adroddiad diweddaraf sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Medi 2025. 

Mae'r adroddiad yn gyfle i ystyried yr ystod eang o bolisïau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u datblygu i helpu plant Cymru i wireddu eu hawliau yn ystod y cyfnod adrodd hwn. Mae'r adroddiad wedi'i strwythuro o amgylch yr ymagwedd egwyddorol at hawliau dynol plant fel y'i nodwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru yn Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wireddu hawliau plant yng Nghymru. 

Rydym am greu Cymru ar gyfer pob plentyn; lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol. 

Gellir gweld yr adroddiad yma: Hawliau plant a phobl ifanc: adroddiad cydymffurfio (Ebrill 2023 i Medi 2025)