Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn y cyfyngiadau lefel pedwar newydd a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 19 Rhagfyr, rwy’n cyhoeddi adroddiad ar sefyllfa’r system iechyd er mwyn dangos graddfa’r pwysau sydd ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar hyn o bryd

Bydd yr aelodau yn deall nad penderfyniad hawdd yw cyfyngu ar y rhyddid yr ydym fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol, ond rydym mewn sefyllfa sy’n gofyn am gymryd camau pendant yn ddiymdroi er mwyn arbed bywydau.  Trwy gydol y pandemig Covid-19, rydym wedi ceisio bod yn dryloyw wrth wneud penderfyniadau a chyfathrebu’n glir gyda’r cyhoedd am realiti’r heriau sy’n ein hwynebu a’r camau y mae angen iddynt eu cymryd

Mae’r adroddiad sydd ar gael yn y ddolen isod yn nodi’n ddi-flewyn-ar-dafod graddfa ac ystod yr heriau sy’n wynebu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wrth i ni agosáu at gyfnod yr ŵyl.

https://llyw.cymru/adroddiad-sefyllfa-system-iechyd-gig-cymru

Mae’r galw am wasanaethau iechyd a gofal yn parhau i gynyddu, a hynny ar adeg pan fo anghenion cadw pellter corfforol ac absenoldeb staff oherwydd salwch yn cyfyngu ar gapasiti.

Mae staff iechyd a gofal wedi gweithio’n arbennig o galed i’n cadw ni i gyd yn ddiogel dros y naw mis diwethaf, a hynny’n aml iawn ar draul eu hiechyd, eu llesiant a’u gallu i dreulio amser gyda’u teuluoedd a’r rhai sy’n agos iddynt.  Rwy’n hynod o ddiolchgar i’n staff am barhau i ddangos y fath ymrwymiad a thosturi i’n cadw ni oll yn saff. Does dim golwg y bydd y pwysau sydd ar y system yn debygol o lacio wrth i ni weld cynnydd sylweddol yn yr achosion o Covid-19 yn ein hysbytai a’n cymunedau, a bydd hyn yn cael ei gymhlethu gan yr un mathau o heriau y byddem yn disgwyl eu gweld mewn gaeaf ‘arferol’.

Mae’n hollbwysig, yn y cyd-destun yma, ein bod ni oll yn chwarae ein rhan i geisio arafu lledaeniad y coronafeirws gan amddiffyn ein GIG y gaeaf hwn drwy ddilyn y cyngor a lleihau cymysgu cymdeithasol cymaint ậ phosibl. Gallwn oll wneud gwahaniaeth gan helpu i gadw Cymru’n ddiogel.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.