Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 a'r rheoliadau dilynol i osod a chyflwyno isafbris uned o 50c am alcohol i rym ar 2 Mawrth 2020, yn union cyn dechrau'r pandemig.
Mae'r isafbris uned yn targedu gwerthu alcohol am bris isel iawn, yr yfir llawer ohono ac sy'n gallu rhoi pobl mewn perygl hirdymor o ganser, strôc, clefyd y galon, clefyd yr afu a niwed i'r ymennydd. Ei fwriad yw helpu i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol trwy leihau faint o alcohol sy'n cael ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol a'i nod yw amddiffyn iechyd yfwyr peryglus a niweidiol sy'n tueddu i yfed mwy o gynhyrchion cost isel gyda chynnwys alcohol uchel.
Yn unol â thelerau Deddf 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu adroddiad am sut y caiff y ddeddfwriaeth ei rhoi ar waith, a'i heffaith. Wrth baratoi'r adroddiad hwn, fe wnaethom ymgynghori â'r Senedd a rhanddeiliaid eraill trwy gyfrwng ymgynghoriad 12 wythnos; cynhaliwyd arolwg ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd alwad am dystiolaeth. Cyhoeddwyd adroddiad y pwyllgor, Isafbris uned am alcohol yng Nghymru ddiwedd mis Mehefin. Ystyriwyd y canfyddiadau o werthusiadau annibynnol Llywodraeth Cymru o'r Ddeddf, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, hefyd.
Mae'r adroddiad ar weithrediad ac effaith ar gael yn Gweithrediad ac effaith y darpariaethau ar gyfer isafbris am alcohol 2020-2025. Mae'n archwilio'r dystiolaeth am weithrediad ac effaith isafbris uned dros y cyfnod o bum mlynedd rhwng mis Mawrth 2020 a diwedd mis Chwefror 2025. Mae sawl ffactor allanol arwyddocaol wedi dylanwadu ar y casgliadau, y gellir eu tynnu o'r dystiolaeth sydd ar gael. Roedd cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cyd-daro â dechrau'r pandemig, ac wedi hyn daeth yr argyfwng costau byw – cyfnod a nodwyd gan chwyddiant uchel, parhaus. Mae'r ffactorau hyn wedi cyflwyno cymhlethdod sylweddol i'r broses werthuso ac mae'n debygol o fod wedi dylanwadu ar agweddau pobl tuag at alcohol, ei bris, a phatrymau prynu ac yfed.
Er gwaethaf yr heriau hyn, daeth y gwerthusiadau annibynnol i'r casgliad bod y dystiolaeth yn awgrymu canfyddiadau cadarnhaol yn gyffredinol o ran gweithrediad y polisi isafswm uned, er bod rhai cyfyngiadau a heriau yn parhau. Mae'r dystiolaeth yn cyflwyno darlun cadarnhaol ar y cyfan o isafbris am alcohol fel mesur polisi, yn enwedig o ran ei weithredu yng Nghymru.
Rhoddodd yr ymgynghoriad 12 wythnos gyfle i randdeiliaid o'r sector iechyd, y sector manwerthu a'r trydydd sector ystyried eu profiadau eu hunain o’r isafsbris uned – fel y gwnaeth galwad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd am dystiolaeth. Roedd yr adborth yn cefnogi canfyddiadau'r gwerthusiadau annibynnol i raddau helaeth.
Mae Gweinidogion Cymru wedi adolygu'r holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ar weithrediad ac effaith ac maent o'r farn bod y dystiolaeth yn awgrymu bod isafbris am alcohol wedi cyfrannu tuag at ei amcanion polisi arfaethedig. Yn gyffredinol, mae gweithrediad ac effaith yr isafbris uned wedi bod yn gyffredinol gadarnhaol.
Mae tystiolaeth i awgrymu y gall effeithiolrwydd isafbris uned fel polisi gael ei ddylanwadu gan y pris fesul uned sydd wedi'i bennu fel isafbris uned.
Fel y cyfryw, bydd angen i unrhyw ystyriaethau o ddyfodol y polisi, gan gynnwys a ddylai barhau, ystyried lefel yr isafbris uned a bennwyd. I gefnogi hyn, rydym wedi comisiynu'r Sheffield Addictions Research Group ym Mhrifysgol Sheffield, i archwilio'r mater hwn. Bydd ei ganfyddiadau, ynghyd â'r dystiolaeth yn yr adroddiad ar weithrediad ac effaith, yn helpu i lywio datblygiad cynnig sy’n ymwneud â dyfodol y darpariaethau prisio isafbris uned, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i Aelodau am y broses hon.
Mae isafbris am alcohol yn un o ystod eang o bolisïau iechyd a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwella canlyniadau iechyd. Nid yw wedi'i gynllunio i weithio ar ei ben ei hun, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gwaith eang yn y maes camddefnyddio sylweddau, gan ganolbwyntio ar atal, cefnogaeth ac adferiad, a mynd i'r afael ag argaeledd.
