Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n falch o osod gerbron y Cynulliad heddiw y trydydd adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru.  

Yn unol ag Adran 3C o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol gan egluro i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi cael eu gweithredu.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod o 17 Chwefror 2017 i 16 Chwefror 2018, ac mae'n rhoi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chynigion Comisiwn y Gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys y rheini sydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ar Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy'n Gymwys yng Nghymru.

Edrychaf ymlaen hefyd at ganlyniad adolygiadau eraill Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru, gan gynnwys y prosiect sy'n gysylltiedig â'r gyfraith gynllunio yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer o bwys ar gynigion Comisiwn y Gyfraith, ac mae hyn yn amlwg yn y cynnydd a ddisgrifir yn yr adroddiad.