Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf osod gerbron y Senedd heddiw y chweched adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru.  

O dan Adran 3C o Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965, fel y'i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad bob blwyddyn ynghylch i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 15 Chwefror 2020 a 14 Chwefror 2021, ac yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar nifer o feysydd sy'n ymwneud â chynigion Comisiwn y Gyfraith yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau presennol Comisiwn y Gyfraith a phrosiectau yn y Dyfodol.

Gwnaed cynnydd dros y 12 mis diwethaf o ran nifer o faterion y mae Comisiwn y Gyfraith wedi gwneud argymhellion yn eu cylch. Cyhoeddwyd ein hymateb terfynol manwl i “Cyfraith Cynllunio yng Nghymru – Adroddiad Terfynol” Comisiwn y Gyfraith. Roedd hwn yn dilyn ac yn ategu ein hymateb interim, ac yn nodi ein barn ar bob un o'r 192 o argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith i symleiddio a chydgrynhoi'r ddeddfwriaeth ar bob agwedd ar y system gynllunio. Rydym wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â diwygio etholiadol, galluedd meddyliol ac amddifadu o ryddid, gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat a chyfraith bywyd gwyllt.

Mae'r adroddiad hwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut rydym yn ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith ar ei brosiectau presennol a phrosiectau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwaith pwysig ar ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â diogelwch tomenni glo, tribiwnlysoedd Cymru a cherbydau awtomatig.

Mae'r diweddariad hwn a'r cynnydd a nodwyd yn dangos y pwys y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gynigion Comisiwn y Gyfraith.