Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf osod gerbron y Senedd heddiw yr wythfed adroddiad blynyddol ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith.

O dan Adran 3C o Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965, fel y'i ddywigir gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad yn flynyddol ynghylch gweithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod o 15 Chwefror 2022 i 14 Chwefror 2023, ac mae diweddaru Aelodau ynghylch nifer o feysydd sy'n ymwneud â chynigion y Comisiwn. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth am brosiectau presennol y Comisiwn yn ogystal â phrosiectau’r dyfodol.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed dros y deuddeng mis diwethaf o ran nifer o faterion y mae Comisiwn y Gyfraith wedi gwneud argymhellion yn eu cylch. Rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfraith bywyd gwyllt yn y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ac wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Cydgrynhoi Cynllunio, gan weithio’n agos gyda Chomisiwn y Gyfraith ar lunio’r Bil. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno Bil mewn perthynas â Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru yn ystod tymor y Senedd hon. Rydym yn parhau i wneud cynnydd o ran bwrw ymlaen â chynigion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat, diwygio lesddaliadol a chyfunddaliadol a thribiwnlysoedd datganoledig i Gymru.

Mae'r diweddariad hwn a'r cynnydd a nodwyd yn dangos y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar gynigion Comisiwn y Gyfraith.