Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan ein Cynllun Gweithredu Cychwynnol ar gyfer y Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol, comisiynodd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth astudiaeth ddichonoldeb yn ymwneud â chreu methodolegau ffioedd cenedlaethol ar gyfer lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobl hŷn. 

Yn dilyn proses dendro agored, penodwyd Practice Solutions Limited i ymgymryd â'r gwaith hwn. Roedd y gwaith yn cynnwys ymgysylltu'n helaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, a darparwyr gofal. Mae'r adroddiad terfynol sy'n deillio o hyn yn cyflwyno sawl argymhelliad ynghyd â chamau nesaf arfaethedig. 

Rwy'n croesawu'r Astudiaeth ddichonoldeb ar fethodoleg ffioedd genedlaethol ar gyfer pobl hŷn mewn gofal preswyl | LLYW.CYMRU, sydd wedi adolygu'r dulliau cyfredol o bennu ffioedd a gwerthuso eu hymarferoldeb, gan archwilio a fyddai mabwysiadu methodoleg ffioedd genedlaethol yn fuddiol i Gymru, gan ystyried adborth gan y sector. 

Rwyf wedi gofyn i'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth arwain wrth inni symud ymlaen i roi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad. Bydd y gwaith, wrth gael ei symud yn ei flaen, yn elwa ar weithgarwch ymgysylltu parhaus â'r rhanddeiliaid perthnasol, a bydd yn dod yn rhan o gam nesaf ein gweledigaeth hirdymor i sefydlu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol i Gymru.   

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.