Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf ddatgan cyhoeddi Cynllun Blynyddol 2022-23 a luniwyd gan Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, y Cynghorwyr Cenedlaethol dros Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.  Mae hyn hefyd yn un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Mae Adran 22 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynghorwyr Cenedlaethol baratoi cynllun blynyddol sy'n nodi eu huchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rwyf wedi adolygu'r cynllun blynyddol ac wedi cytuno i'w gyhoeddi. 

Mae'r Cynghorwyr Cenedlaethol wedi cefnogi’n llwyr ein huchelgais i ddileu pob math o drais ar sail rhywedd ac i wneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. Mae eu cynllun blynyddol terfynol yn parhau i sicrhau bod ymyriadau'n effeithiol a'u bod yn canolbwyntio ar atal, addysg a chymorth priodol ac, yn bwysig iawn, bod lleisiau goroeswr yn ganolog i'n hymateb.

Yn gynharach eleni, cytunais i ymestyn tymor swyddi’r Cynghorwyr Cenedlaethol presennol hyd at fis Gorffennaf 2022 i ddarparu sefydlogrwydd y mae mawr ei angen i'n rhanddeiliaid a defnyddwyr eu gwasanaethau wrth i ni barhau i fyw drwy effaith pandemig COVID-19. Felly, bydd y cynllun hwn yn cwmpasu’r holl gyfnod sy’n weddill o’u tymor.

Hoffwn ddiolch i'r Cynghorwyr Cenedlaethol am eu harbenigedd a'u cyngor amhrisiadwy drwy gydol rhai o'r cyfnodau mwyaf heriol i ddioddefwyr, goroeswyr a gwasanaethau arbenigol yn y sector hwn. 

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun blynyddol cynghorwyr cenedlaethol 2022 i 2023.