Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy mhenodiad diweddar fel y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, rwy’n falch o gyhoeddi’r adroddiad hwn, sef y trydydd adroddiad blynyddol ar ddeg gan Lywodraeth Cymru ar gydraddoldeb.  

Mae 2011–12 wedi bod yn flwyddyn bwysig i gydraddoldeb a chynhwysiant yng Nghymru. Gwelwyd cyflwyno Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Hefyd yn 2011-12 cafwyd ymgysylltu helaeth â phobl ledled Cymru fel rhan o ddatblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyntaf Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi gweithio i sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cydblethu’n glir ac yn cyd-fynd â’r Cynllun Gweithredu Trechu Tlodi. Gyda’i gilydd, mae’r Cynlluniau’n cynnig fframwaith i flaenoriaethu anghenion y rheini sy’n wynebu’r anfanteision mwyaf, ac amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl o dlodi ac ymylu yn ein cymunedau.

Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau pwysig i fodloni’n gofynion adrodd, ac am y tro cyntaf mae’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol hefyd yn cynnwys adroddiad ar ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Mae hyn yn tynnu ynghyd ein dyletswyddau adrodd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru a’r Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol i Gymru. Yn sgil hyn ceir adroddiad sy’n rhoi darlun cyflawn o’r sefyllfa sydd ohoni, y camau rydyn ni’n eu cymryd, a chyfeiriad ein gwaith o ran hyrwyddo cydraddoldeb, a hefyd o ran sicrhau bod lle amlwg yn ein syniadaeth yng Nghymru i gydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.