Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol 2025 a'i osod gerbron y Senedd. Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2025.
Adroddiad blynyddol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Adroddiad Gweinidogion Cymru 2025 | LLYW.CYMRU
Rydym yn cymryd ein dyletswyddau a'n hymrwymiadau sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol o ddifrif. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gwaith yr ydym yn ei wneud fel llywodraeth ac yn rhoi enghreifftiau o'r hyn sy'n digwydd ledled Cymru yn sgil ymdrechion partneriaid yn y sector cyhoeddus.
Mae cyfle cyfartal yn wastad wedi bod yn nodwedd allweddol o'r setliad datganoli. Mae'r adroddiad yn gasgliad o'n gofynion adrodd statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb sy'n Benodol i Gymru. Fel llywodraeth, mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Hawliau Dynol 2025-2029 yn nodi ein dyhead hirdymor, sef "Mae Cymru'n wlad sy'n seiliedig ar degwch, cynhwysiant ac atal gwahaniaethu, trwy gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol.".
Credwn y dylai pawb gael ei drin yn deg ac rydym yn gweithio tuag at greu Cymru fwy cyfartal. Rydym yn cydnabod y berthynas bwysig rhwng cydraddoldeb a hawliau dynol wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau. Credwn fod cydraddoldeb yn egwyddor ynddo'i hun, ac yn ganlyniad parchu, diogelu a chyflawni hawliau dynol.
Ochr yn ochr â chyflawni ein Dyletswyddau Cydraddoldeb sy'n Benodol i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatganiad ar hawliau dynol, sydd wedi ei nodi fel rhan o'r Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025–2029:
"Mae hawliau dynol yn hawliau sy'n eiddo i bawb. Byddwn yn parchu, yn diogelu ac yn cyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol fel y gall pawb yng Nghymru fyw eu bywydau gydag urddas, rhyddid, diogelwch a heb wahaniaethu. Rydym yn ymrwymo i ddull o weithredu hawliau dynol sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn, gan wella lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol 2025 yn edrych yn ôl ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud i hyrwyddo'r ddau fater yn ystod y 15 mis diwethaf. Mae'n adlewyrchu ar gamau gweithredu i gefnogi'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 – 2024, wrth fynd ati hefyd i gyflwyno rhai o'r cysyniadau yr ydym wedi'u datblygu ar gyfer y cynllun olynol ar gyfer 2025 – 2029.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â llawer o wahanol grwpiau rhanddeiliaid sy'n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol, gan ein helpu i ddeall eu blaenoriaethau a'r heriau y maent yn eu hwynebu bob dydd.
Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o fforymau sydd wedi’u sefydlu ers tro, lle rydym yn cydweithio’n rheolaidd ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol i drafod materion cydraddoldeb a hawliau dynol. Ymhlith y rhain y mae:
- Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl a’r Tasglu Hawliau Anabledd;
- Fforwm Hil Cymru
- Grŵp Cynghori ar Hawliau Dynol
- a Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV
Mae'r fforymau hyn naill ai'n cael eu cadeirio gan Weinidogion Cymru neu uwch swyddog o Lywodraeth Cymru a/neu yn cael eu cyd-gadeirio gan gynrychiolwyr o'r gymuned fuddiant berthnasol. Mae rhai ohonynt yn unigryw yn y DU o ran y ffordd maen nhw’n rhoi cyfle i randdeiliaid ym maes cydraddoldeb ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf o'r llywodraeth ynghylch y materion sy’n bwysig iddynt.
Mae'r adroddiad eleni hefyd yn ymgorffori trosolwg o sut mae rhai sefydliadau'r sector cyhoeddus wedi perfformio yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae enghreifftiau wedi'u darparu ar draws y sector cyhoeddus i ddangos cynnydd, tra bo'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i weithredu fel y rheoleiddiwr ffurfiol ar gyfer y maes hwn.
Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r adroddiad hwn gerbron y Senedd. Byddwn yn parhau i weithio tuag at greu Cymru sy'n fwy cyfartal lle mae gwahaniaethu ac anfantais yn rhyw atgof pell.
