Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cais i fwrdd iechyd neu Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yw Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) i gyllido gofal iechyd i gleifion sydd y tu allan i’r rhychwant gwasanaethau a thriniaethau y mae corff GIG yn eu darparu fel rheol. Gall IPFR fod ar gyfer pob math o ofal iechyd, gan gynnwys gwasanaeth, triniaeth, meddyginiaeth, dyfais neu ddarn offer penodol. Ceir ychydig o gannoedd o IPFR bob blwyddyn a derbynnir y rhan fwyaf.

Yn sgil yr adolygiad IPFR yn 2014 a gweithredu ei argymhellion, efallai y bydd Aelodau yn cofio imi gytuno yn 2016 bod yr adeg yn iawn ar gyfer adolygiad newydd, annibynnol o’r broses IPFR. Roedd gan y grŵp o arbenigwyr annibynnol a gynhaliodd yr adolygiad rychwant o arbenigedd a gwybodaeth berthnasol a hwythau yn unig oedd yn gyfrifol am gynnwys eu hadroddiad, eu canfyddiadau a’u hargymhellion. Derbyniais bob un o’r 27 o argymhellion – yr oedd rhai ohonynt yn cymeradwyo ac yn adeiladu ar ymarfer da cyfredol yn y GIG – ac ymrwymais i’w gweithredu.

Ymhlith y newidiadau a gafwyd o’u herwydd yr oedd gwella mynediad i wybodaeth am y broses IPFR i glinigwyr ac i gleifion; darparu mwy o hyfforddiant i glinigwyr am y broses IPFR a’r prosesau y mae cyrff GIG yn eu defnyddio i gomisiynu gwasanaethau mewn byrddau iechyd eraill; sefydlu Grŵp Cynghori Sicrhau Ansawdd GIG Cymru (QAAG) i fonitro prosesau IPFR y cyrff GIG a symleiddio’r broses.

Mae’r QAAG yn adolygu sampl o IPFR o bob corff GIG bob chwe mis. Mae’r Grŵp yn ystyried y dilynir y broses IPFR yn unol â’r polisi IPFR yn gyffredinol.

Un arall o’r argymhellion oedd adolygu’r meini prawf y mae panel IPFR corff GIG yn eu defnyddio i asesu IPFR drwy ei wneud yn ofynnol i’r clinigwr ddangos yr enillai claf fudd clinigol arwyddocaol am werth rhesymol am arian i GIG Cymru, yn hytrach na dangos bod gan glaf eithriadoldeb clinigol. Yr adroddiad blynyddol diweddaraf am y broses IPFR (https://www.awttc.org/ipfr) yw’r cyntaf ar gyfer blwyddyn lawn ers adolygu’r canllawiau IPFR ym mis Mehefin 2017.

Bu nifer yr IPFR yn disgyn ers 2015 ac mae’r nifer fach yn 2018-19 (358) yn golygu y byddai’n anodd cyffredinoli neu dynnu casgliadau diffiniol am effaith y newidiadau a wnaethpwyd i’r broses IPFR. Eto i gyd mae’n dda gennyf adrodd y bu’r raddfa gymeradwyo am IPFR yn codi ers 2016-17, gan gyrraedd y lefel uchaf hyd yn hyn - 68% - yn 2018-19. Bu’r raddfa gymeradwyo am IPFR i feddyginiaethau yn cynyddu dros y bedair blynedd ddiwethaf nes cyrraedd y lefel uchaf hyd yn hyn - 71% - y llynedd. Mae’r raddfa gymeradwyo i driniaethau heblaw meddyginiaethau wedi amrywio dros amser ond y llynedd cafwyd y raddfa gymeradwyo uchaf hyd yn hyn – 66%. Yn ogystal ag IPFR, yn 2018-19, cafwyd 32 cais i barhau â’r cyllido, ar gyfer estyniadau i’r IPFR gwreiddiol. Cafwyd 28 i feddyginiaethau a chwech am driniaethau heblaw meddyginiaethau, sy’n nodi bod cleifion yn elwa o’r triniaethau y gofynnwyd amdanynt.

Rhan fach ond arwyddocaol o’r gwasanaethau y mae GIG Cymru yn eu darparu yw IPFR ac ni ddylid dibrisio eu heffaith ar gleifion. Credaf fod yr adolygiad annibynnol wedi gwella dealltwriaeth o’r broses IPFR i gleifion a chlinigwyr ill dau a bod y monitro cyson y mae’r QAAG yn ei gynnal yn golygu y gall cleifion a chlinigwyr fod yn gwbl hyderus y cynhelir IPFR i’r safonau uchaf.