Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gen i groesawu cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar gyfer 2021 i 2022 heddiw (27 Gorffennaf 2022). Mae’r ddogfen hon yn adrodd ar drydedd flwyddyn, a blwyddyn olaf Cynllun Corfforaethol ACC 2019 i 2022.

Yn ystod y flwyddyn, cododd yr awdurdod treth y lefelau uchaf erioed o refeniw treth ar gyfer Cymru – y mwyaf ers iddo ddechrau casglu a rheoli’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi ym mis Ebrill 2018.

Cynhaliwyd lefelau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid, a pherfformiodd y sefydliad yn dda ar draws ystod o feysydd – gan gynnwys prosesu’r nifer mwyaf o ffurflenni treth hyd yma, wrth i gyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) yn ymwneud â’r farchnad dai godi.

Er gwaethaf heriau COVID-19, parhaodd ACC i gefnogi ei gwsmeriaid, yn ogystal â’i bobl. Ac o’r herwydd talodd mwyafrif helaeth o’r cwsmeriaid y dreth iawn ar yr amser iawn, yn unol â ffordd Gymreig ACC o drethu, a chafwyd lefelau uchel parhaus o ymgysylltiad staff.

Roedd y flwyddyn yn garreg filltir i ACC wrth iddo godi £1 biliwn mewn refeniw treth i Gymru ers ei lansio. Mae’r cyllid hanfodol hwn yn cefnogi pobl Cymru wrth i ni fuddsoddi mewn gwella gwasanaethau cyhoeddus ar draws cymunedau Cymru.

Cynigiodd ACC sgiliau, profiad ac arbenigedd i gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar ddatblygu treth ar gyfer y dyfodol hefyd, gan helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu.

Edrychaf ymlaen at adroddiadau gan ACC yn y dyfodol ar ei gynnydd yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol 2022 i 2025.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.