Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Hoffwn hysbysu’r Aelodau fod CThEF wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae’n ofynnol i CThEF adrodd yn flynyddol ar y ffordd y mae’n gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y mae CThEF yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys:
- nodi a sicrwydd;
- cydymffurfiad;
- refeniw, pennu cyfraddau CTIC a'u rhagolygu;
- gwasanaeth a chymorth i gwsmeriaid;
- llywodraethu a goruchwylio;
- Adroddiad Gwybodaeth Busnes Blynyddol 2024 i 2025.
Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae strwythur llywodraethu ffurfiol ar waith i sicrhau gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr Cymreig a chaniatáu i CThEF a Llywodraeth Cymru gyflawni eu priod gyfrifoldebau mewn cysylltiad â gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad ar gael yn:
Adroddiad Blynyddol 2025 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru - GOV.UK
