Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu’r aelodau fod CThEM wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae’n ofynnol i CThEM adrodd yn flynyddol ar y ffordd y mae’n gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y ffordd y mae CThEM yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys:

  • nodi’r trethdalwyr Cymreig a chynnal gwiriadau sicrwydd
  • gweithgareddau cydymffurfiaeth
  • casglu refeniw CTIC a chadw cyfrifon
  • gwasanaethau a chymorth i gwsmeriaid
  • data ar gyfer gosod CTIC a llunio rhagolygon
  • llywodraethu a goruchwylio CTIC
  • costau cyflenwi CTIC ac ailgodi tâl am y costau hyn ar Lywodraeth Cymru 

Mae strwythur llywodraethu ffurfiol ar waith i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth y mae’r trethdalwyr Cymreig yn ei dderbyn yn gyson, ac i alluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i gyflawni eu priod gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad ar gael yn: Adroddiad Blynyddol CThEF 2023 ar Gyfraddau Treth Incwm Cymru