Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth inni fynd drwy ein hail flwyddyn o’r pandemig COVID-19, mae aelodau a chyn-aelodau ein Lluoedd Arfog wedi parhau i ddarparu cymorth ac arbenigedd amhrisiadwy i’r cymunedau ledled Cymru. Rydym yn ddiolchgar am eu cymorth parhaus, sy’n dangos y rôl werthfawr y maent yn ei chwarae yn ein cymunedau. Mae Wythnos y Lluoedd Arfog yn gyfle i gydnabod ac i gofio eu cyfraniad sylweddol i’r frwydr yn erbyn y pandemig COVID-19, a’r ymdrechion i gadw ein cymunedau’n ddiogel. Maent yn wir haeddu ein diolch a’n gwerthfawrogiad.

Fel Llywodraeth, rydym yn parhau’n gwbl ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau a chymorth pwrpasol ar gyfer bodloni anghenion y gymuned bwysig hon. Ym mis Medi y llynedd, gosodais ein hail Adroddiad Blynyddol ar Gyfamod y Lluoedd Arfog ger bron y Senedd. Mae’r gwaith ar yr agenda bwysig hon wedi camu yn ei flaen, ac rydym yn dal i weld cynnydd o ran y mentrau sydd wedi darparu cymorth ymarferol a phwrpasol ar gyfer teuluoedd y rheini sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’r rheini sydd wedi gwneud hynny yn y gorffennol.

Unwaith yn rhagor, mae ein Grŵp Arbenigol ar y Lluoedd Arfog a’n partneriaid eraill wedi chwarae rôl bwysig yn y gwaith o sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth priodol i’r rheini sydd eu hangen, ac rwy’n ddiolchgar am y gwaith sydd wedi ei gyflawni, ac am ymdrechion diflino’r sefydliadau a’r unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith hwnnw.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio gyda’r Grŵp Arbenigol ar y Lluoedd Arfog a phartneriaid allweddol eraill i ddarparu’r cymorth y mae ei angen ar ein cymuned Lluoedd Arfog, sef cymorth y mae’n haeddu ei gael.   

I weld copi o Adroddiad Blynyddol Cymru ar Gyfamod y Lluoedd Arfog, sydd wedi ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg, cliciwch ar:

https://llyw.cymru/cyfamod-y-lluoedd-arfog-adroddiad-blynyddol-2020