Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy fod yn ffordd arall o roi cyngor a chymorth gwleidyddol.
Maent wedi'u penodi gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion gyda materion ble mae gwaith y Llywodraeth a gwaith Plaid y Llywodraeth yn croesi, a ble fyddai'n amhriodol i weision sifil parhaol gymryd rhan, gan gynnwys penodiadau sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Cydweithredol blaenorol.
Roedd 18 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o flwyddyn ariannol 2023/24, sy'n cyfateb i 14 cynghorydd arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir yn y tabl isod:
| Alex Bevan* |
| Madeleine Brindley |
| Steffan Bryn (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Daniel Butler ** (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Ian Butler ** (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| David Davies † (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Kate Edmunds (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Emily Edwards** |
| Sara Faye |
| Sam Hadley~ |
| Mark Hooper** (penodwyd 25 Medi 2023) |
| David Hooson |
| Clare Jenkins * (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Owen John (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Phillipa Marsden |
| Jane Runeckles* (diwrnod olaf o wasanaeth 20 Mawrth 2024) |
| Mitchell Theaker (diwrnod olaf o wasanaeth 3 Ebrill 2023) |
| Dafydd Trystan**~ (penodwyd 12 Chwefror 2024) |
| Tom Woodward |
* Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig
** Rhan-amser
† Cynghorydd Arbennig ar alwad, a delir â ffi
~ Secondai, a delir yn unol â band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig
Cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024 oedd £1,772,135. Mae hyn yn cynnwys cyflog a'r holl gyfraniadau ychwanegol perthnasol.
Oherwydd ymadawiad y (cyn) Brif Weinidog Mark Drakeford AS ar 20 Mawrth 2024, daeth y contractau ar gyfer pob Cynghorydd Arbennig i ben. Mae'r cyfanswm uchod yn cynnwys taliadau diswyddo o £479,715, yn unol â thelerau'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Ar ôl ailbenodi rhai Cynghorwyr Arbennig bydd £189,079 o daliadau diswyddo yn cael eu hadennill ac mae’r ffigurau uchod yn cynnwys symiau a gronnwyd ar gyfer eu hadennill ar ddiwedd y flwyddyn. Cyfanswm cost net taliadau diswyddo i gyn Ymgynghorwyr Arbennig yn 2023-24 oedd £290,636.
Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig
Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig. Y bandiau cyflog hyn yw:
Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £57,740 – £75,705
Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig: £75,000 – £88,130
Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau am hyn, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.
