Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynghorwyr arbennig yn rhan bwysig o'r tîm sy'n cefnogi gweinidogion. Maent yn ychwanegu dimensiwn gwleidyddol at y cyngor a'r cymorth sydd ar gael i'r gweinidogion, ac yn atgyfnerthu gallu'r Gwasanaeth Sifil parhaol i fod yn ddiduedd yn wleidyddol drwy fod yn ffynhonnell cyngor a chymorth gwleidyddol ar wahân. 

Cant eu penodi gan y Prif Weinidog i wasanaethu’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth gyfan. Maent yn gweithio’n agos gyda gweision sifil i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gallant helpu'r gweinidogion ar faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a gwaith y blaid sy'n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai'n briodol i weision sifil parhaol fod yn rhan o'r gwaith hwnnw.

Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Roedd y cyfnod hwn yn cynnwys dod â’r Cytundeb Cydweithio i ben a newid Prif Weinidog. Mae cyfanswm bil cyflog cynghorwyr arbennig felly’n cynnwys penodiadau o dan y Cytundeb Cydweithio, penodiadau gan y cyn Brif Weinidog Vaughan Gething AS, a phenodiadau gen innau fel Prif Weinidog.

Cost Cynghorwyr Arbennig

Cost cynghorwyr arbennig ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025 oedd £1,571,334. Mae hyn yn cynnwys cyflog (gan gynnwys dyfarniadau cyflog), cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr a chyfraniadau pensiwn. Mae hefyd yn cynnwys cost net o £202,098 o daliadau diswyddo i gynghorwyr arbennig sy'n deillio o ddau achlysur ar wahân yn ystod y cyfnod sydd dan sylw yn yr adroddiad hwn.

Daw penodiad cynghorydd arbennig i ben yn awtomatig pan fydd y Prif Weinidog sydd wedi ei benodi yn rhoi'r gorau i'r swydd honno. Yn unol â'r Contract Enghreifftiol ar gyfer Cynghorwyr Arbennig, mae gan gynghorydd arbennig hawl i dderbyn taliad diswyddo o dan yr amgylchiadau hynny. Mae'n ofynnol i gynghorwyr arbennig sydd wedyn yn cael eu hailbenodi i ad-dalu eu taliad diswyddo. Roedd gan gynghorwyr arbennig a benodwyd o dan y Cytundeb Cydweithio hawl hefyd i dderbyn taliad diswyddo ar ôl i'r cytundeb ddod i ben. 

Gwnaed dwy rownd o daliadau diswyddo yn ystod y cyfnod adrodd:

  • ar roi'r gorau i'r Cytundeb Cydweithio ar 17 Mai 2024; ac
  • ar ymadawiad y cyn Brif Weinidog Vaughan Gething AS ar 6 Awst 2024 pan ddaeth yr holl gontractau cynghorwyr arbennig i ben. 

Cyfanswm cost net y taliadau diswyddo a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd ar draws y ddwy rownd oedd £202,098, sy'n cynnwys symiau sy'n ddyledus am wyliau blynyddol heb eu cymryd ac mae'n net o unrhyw ad-daliadau.

Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig

Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â’r band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig. Y bandiau cyflog hyn yw:

  • Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £60,627 - £79,490                                             
  • Band cyflog Uwch Gynghorydd Arbennig: £76,000 - £92,537