Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi Adroddiad Ystadegol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2024-25. 

Ers 2013-14, mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu aelwydydd agored i niwed ac incwm isel ledled Cymru drwy gynnal hawliau llawn i gymorth gyda biliau'r dreth gyngor, o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS), dewis sydd wedi cael ei wneud bob blwyddyn ers mwy na degawd. 

Rydym wedi parhau i gefnogi'r cynllun drwy ddarparu £244m yn flynyddol drwy'r setliad llywodraeth leol. Mae ein cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi'i deilwra ac yn golygu bod y cyllid hwn yn cael ei dargedu at y rhai y mae arnynt ei angen fwyaf.

Yn 2024-25, roedd hyn yn golygu bod tua 256,500 o aelwydydd incwm isel a rhai sy'n agored i niwed - sef un o bob pum aelwyd - wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth gyngor. O’r rhain, ni thalodd bron 216,000 o aelwydydd unrhyw dreth gyngor o gwbl.

Fel bob amser, hoffwn annog pawb i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a oes ganddynt hawl i gael help gyda'u bil treth gyngor, naill ai drwy ein cynllun gostyngiadau neu drwy un o'r gostyngiadau a'r esemptiadau niferus sydd ar gael. Dylai pobl sy'n cael trafferth gyda dyled y dreth gyngor gysylltu â'u hawdurdod lleol cyn gynted â phosibl bob amser, neu ffonio AdviceLink Cymru ar 0800 702 2020.

Rwyf yn ddiolchgar am y cymorth parhaus gan yr awdurdodau lleol wrth weithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yng Nghymru, ac wrth helpu i sicrhau bod y cymorth ariannol pwysig hwn yn cyrraedd aelwydydd cymwys. 

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar gael yma: Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor: adroddiad blynyddol 2024 i 2025 | LLYW.CYMRU

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.