Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn llunio cynllun sy'n amlinellu sut y maent, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn bwriadu cynnal a hyrwyddo Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd y cynigion a amlinellwyd yn y cynllun eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol a chyflwyno copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwyf wedi gosod Adroddiad Blynyddol 2016-2017 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r gwaith sydd wedi'i wneud yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, ac mae ar gael yma http://gov.wales/topics/localgovernment/partnership-with-local-government/lgps08/annual-reports/?lang=cy.

Mabwysiadwyd Cynllun Partneriaeth newydd gan Gyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 27 Hydref 2017 ac mae ar gael yma; http://gov.wales/topics/localgovernment/partnership-with-local-government/lgps08/?skip=1&lang=cy.