Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Pleser gennyf yw rhoi gerbron y Cynulliad heddiw yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyflwyno a gweithredu darpariaethau cyllid Deddf Cymru 2014.  Dan adran 23 y Ddeddf, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru adrodd yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o ran gwireddu’r darpariaethau dan Ran 2, hyd at flwyddyn wedi i’r darpariaethau terfynol gael eu rhoi ar waith.

Hefyd mae'r adroddiad hwn yn darparu'r diweddariad chwe-misol ffurfiol cyntaf i'r Pwyllgor Cyllid ar y cynnydd o ran cyflwyno Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Rhagfyr 2014, yn amlinellu ystod o bwerau trethu a benthyca newydd i Gymru, gan gynnwys datganoli Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi yn llawn, benthyca i gefnogi buddsoddi cyfalaf ac i reoli amrywiadau cyllidebol yn sgil datganoli treth, pwerau i greu trethi datganoledig newydd fesul achos (yn amodol ar gytundeb y Cynulliad Cenedlaethol, Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi), datganoli treth incwm yn rhannol (os bydd pobl Cymru’n cefnogi hynny mewn refferendwm - wedi dweud hynny mae Llywodraeth y DU wedi awgrymu’n ddiweddar y gwaredir y rheidrwydd i wneud hyn), a’r gallu i ddeddfu ar gyfer gweithdrefnau cyllidebol y Cynulliad.  Y dyddiad targed ar gyfer rhoi mwyafrif y pwerau newydd ar waith yw Ebrill 2018.

Yn y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd cynnydd sylweddol tuag at roi pwerau trethu a benthyca newydd Cymru ar waith.  Ymgysylltwyd ac ymgynghorwyd yn sylweddol â busnesau a chyrff eraill, cynrychiolwyr y Trydydd Sector, arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes treth, yn ogystal â chyda Phwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ac rydym wedi pasio carreg filltir bwysig drwy gyflwyno bil treth cyntaf Cymru - Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).  Mae hyn wedi gosod sail gref ar gyfer gwaith y dyfodol a fydd yn cynnwys, yn nhymor nesaf y Cynulliad, ddeddfwriaeth ar Dreth Trafodiadau Tir ac ar Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a sefydlu o’r newydd ‘Awdurdod Cyllid Cymru’.