Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i gyhoeddi adroddiad yn nodi sut y mae'r cynigion yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi cael eu gweithredu. Mae'r adroddiad hwn yn cwmpasu'r cyfnod o Ebrill 2011-Mawrth 2012 ac yn nodi sut rydym wedi hyrwyddo datblygu cynaliadwy wrth arfer ein swyddogaethau. Mae'n cynnwys trosolwg o'r cynnydd yn erbyn y camau gweithredu a nodwyd gan yr asesiad annibynnol o effeithiolrwydd y Cynllun, a gynhaliwyd gan PwC.

Yr wyf yn diolch unwaith eto i Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy am ei sylwadau annibynnol ar yr adroddiad.  Mae ei asesiad a’i safbwynt annibynnol wedi bod o gymorth mawr i wella ansawdd ein hadroddiadau a byddwn yn anelu i adeiladu ar yr awgrymiadau a wnaed ganddo.

Byddwn yn cadarnhau hyn drwy ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac yn arbennig y ddeddfwriaeth arfaethedig ar ddatblygu cynaliadwy. Bydd ein cynigion yn cael eu nodi mewn Papur Gwyn sydd i ddod.