Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn llunio cynllun sy'n amlinellu sut y maent, wrth gyflawni eu swyddogaethau, yn bwriadu cynnal a hyrwyddo Llywodraeth Leol yng Nghymru.  Mae'n ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd y cynigion a amlinellwyd yn y cynllun eu rhoi ar waith yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwyf wedi cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2017-18 gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae'r adroddiad yn ymdrin â’r  gwaith a wnaed yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ac  mae ar gael yn:

https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership-with-local-government/lgps08/annual-reports/?lang=cy  

Dyma’r adroddiad blynyddol cyntaf ar sail y Cynllun  newydd.

Cafodd y Cynllun Llywodraeth Leol newydd ei fabwysiadu gan y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol ar 27 Hydref 2017 ac mae ar gael yn:

https://gov.wales/topics/localgovernment/partnership-with-local-government/lgps08/?skip=1&lang=cy