Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud cynllun yn amlinellu sut, wrth arfer eu swyddogaethau, y maent yn bwriadu cynnal a hybu llywodraeth leol yng Nghymru. Mae gofyn bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad ar sut rhoddwyd y cynigion yn y cynllun ar waith yn y flwyddyn ariannol flaenorol a gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rwy’n falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2013-14 i’r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae’n tynnu sylw at y cydweithredu a’r gwaith partneriaeth sydd wedi bod yn digwydd ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol, a’r cynnydd a wnaed o ran gwella craffu ac atebolrwydd mewn llywodraeth leol.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, Datganoli, Democratiaeth a Chyflawni: Gwella gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru, a’r Papur Gwyn, Diwygio Llywodraeth Leol, yn gosod agenda newydd ar gyfer awdurdodau lleol a’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Mae angen dilyn y dull gweithredu a amlinellir yn y Papur Gwyn, Diwygio Llywodraeth Leol, os ydym am gynnal llywodraeth leol yng Nghymru. Ein hamcan yw creu llywodraeth leol fodern ac effeithiol, yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n bodloni anghenion pobl Cymru. Byddaf yn bwrw ymlaen yn frwd â’r agenda hon a byddaf yn dymuno gweithio’n adeiladol â llywodraeth leol.