Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Adroddiad Blynyddol y Gronfa Gofal Integredig 2019-20 wedi cael ei gyhoeddi heddiw.
Rydym yn falch o gyflwyno ail adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar roi’r Gronfa Gofal Integredig (ICF) ar waith ledled Cymru. Mae'r adroddiad hwn yn darparu trosolwg cenedlaethol o'r gronfa yn 2019-20 ac yn disgrifio sut mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi defnyddio cyllid yr ICF i helpu i ddatblygu'r broses o integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai.
Mae'n gipolwg ar yr ICF cyn y gwerthusiad llawn ac annibynnol o'r rhaglen sydd wedi'i gomisiynu'n ddiweddar.Mae'r ICF bellach yn rhaglen sefydledig sy'n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor, integredig i ystod eang o bobl sy'n agored i niwed ledled Cymru. Yr hyn sy'n bwysig yw bod y gronfa'n gwneud cyfraniad sylweddol i’n helpu ni i gyflawni ein hymrwymiadau yn Cymru Iachach, sy'n ddull allweddol o gyflawni deddfwriaeth drawsnewidiol Deddf Gwasanaethau a Llesiant (Cymru) 2014. Yn bwysig, mae'n helpu i newid y ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, gyda phartneriaeth a chydweithio yn greiddiol iawn iddi.
Drwy brofi ffyrdd newydd o weithio a gwneud defnydd gwell a mwy effeithiol o adnoddau, mae'r ICF yn cefnogi newid yn y system lle darperir gofal yn aml gartref neu'n agos ato. Nid yn unig y mae hyn yn galluogi pobl i aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain a pharhau i fod yn rhan o gymuned, ond mae'n helpu i leihau'r pwysau ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Mae'r adroddiad hwn yn dangos y gorau o'r hyn a gyflawnwyd gan yr ICF yn ystod 2019-20. Mae prosiectau'n amrywio o ran maint a natur ond mae pob un ohonynt yn chwarae eu rhan wrth sicrhau newid er gwell yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu i bobl Cymru.
Roedd rhan olaf 2019-20 wrth gwrs yn gyfnod heriol iawn gan ein bod i gyd yn teimlo, ar lefel bersonol a phroffesiynol, effaith y pandemig COVID-19. Chwaraeodd yr ICF ran bwysig yn yr ymateb cenedlaethol i'r argyfwng, gan fod llawer o brosiectau a gwasanaethau wedi'u rhoi ar waith ar raddfa fwy neu wedi’u haddasu i helpu i ymdopi â'r galw digynsail am wasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys amryw o gynlluniau o'r ysbyty i'r cartref, rhyddhau cyflym ac chynlluniau osgoi ysbytai. Chwaraeodd cydlynwyr cymunedol hefyd ran allweddol wrth arwain yr ymateb cymunedol a helpu pobl a oedd ynysig i gael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth yr oedd eu hangen arnynt, gan gynnwys siopa a chasglu presgripsiynau.
Rydym yn falch iawn y bydd yr ICF, ac wrth gwrs y Gronfa Trawsnewid, yn parhau am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2022, ac rydym yn buddsoddi £129 miliwn arall yn yr ICF yn 2021-22.
Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn galluogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a sicrhau y gellir cynnal momentwm.
Yn olaf, hoffem gydnabod ymrwymiad yr holl fyrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddarparu'r ICF ac wrth lunio'r adroddiad hwn.
Drwy weithio gyda'n gilydd, mewn partneriaeth, rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.