Dawn Bowden, AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r cyfraniad enfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud drwy'r gofal y maent yn ei ddarparu i'w teulu a'u ffrindiau. Fe wnaethom gyhoeddi'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl yn 2021, sy'n nodi'r blaenoriaethau cenedlaethol canlynol:
- Adnabod a gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl
- Darparu gwybodaeth, cyngor, a chymorth.
- Helpu i fyw yn ogystal â gofalu
- Cefnogi gofalwyr di-dâl mewn addysg ac yn y gweithle
Mae ein hadroddiad blynyddol yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth yn y cyfnod Ionawr 2024 - Mawrth 2025 (Adroddiad blynyddol cynllun cyflawni gofalwyr di-dâl 2024 [HTML] | LLYW.CYMRU) Mae'n disgrifio ein llwyddiannau ar y cyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, y trydydd sector a gofalwyr di-dâl. Mae hyn yn cynnwys:
- Darparu 20,000 o seibiannau byr i ofalwyr drwy Gronfa Seibiannau Byr Llywodraeth Cymru (Ebrill 2024-Mawrth 2025)
- Cefnogi 11,600 o ofalwyr di-dâl drwy Gronfa Cymorth Gofalwyr Llywodraeth Cymru (Ebrill 2024-Mawrth 2025)
Rydym yn falch iawn o nodi bod y ddau gynllun wedi rhagori yn sylweddol ar y targedau ar gyfer darparu.
Ein nod oedd darparu 30,000 o seibiannau byr yn y cyfnod 2022-25. Er ein bod yn dal i gadarnhau'r niferoedd ar gyfer y cyfnod hwn, mae darparu 20,000 o seibiannau byr yn y flwyddyn olaf yn unig yn golygu bod llawer mwy o ofalwyr di-dâl nag a ragwelwyd yn wreiddiol wedi cael seibiant drwy'r cynllun hwn. Mae hyn yn hynod gadarnhaol gan fy mod yn gwybod pa mor bwysig yw hi i ofalwyr gael seibiant o'u rôl ofalu.
Rydym yn ymwybodol hefyd o'r heriau ariannol sy'n wynebu llawer o ofalwyr. Rwy'n falch iawn bod ein Cronfa Cymorth Gofalwyr wedi rhoi grant i 29,000 o ofalwyr ar incwm isel i wneud pryniant hanfodol yn 2022-25 – bron i ddwbl y targed o 15,000. Mae'r cynllun hwn hefyd yn darparu effaith fwy parhaus trwy ddarparu gwybodaeth ariannol a chyngor budd-daliadau.
Rydym yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd wedi rheoli'r cynlluniau hyn ar ein rhan ac i awdurdodau lleol a grwpiau gofalwyr lleol sydd wedi sicrhau eu bod yn cael eu darparu. Nid oedd hanner y gofalwyr a fu'n rhan o'r cynlluniau yn hysbys i'r gwasanaethau yn flaenorol a bydd modd nawr eu cyfeirio at gymorth arall sydd ar gael.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ganolbwyntio ein hymdrechion ar yr hyn y mae gofalwyr yn nodi yw'r prif flaenoriaethau iddyn nhw, a lle byddwn yn cael yr effaith fwyaf. Rydym yn gweithio gyda gofalwyr di-dâl a rhanddeiliaid eraill i ddrafftio Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Gofalwyr Di-dâl. Bydd y strategaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach eleni, cyn ei chyhoeddi yng Ngwanwyn 2026.