Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn dadl ar Strategaeth yr Iaith Gymraeg Iaith fyw: iaith byw yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad Cenedlaethol ar y 12fed o Fawrth 2012, penderfynwyd bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

“Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith”.

O ganlyniad, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymunedau Cymraeg dan gadeiryddiaeth Dr Rhodri Llwyd Morgan.

Mae’r Adroddiad a’r Cynllun Gwaith arfaethedig a gyhoeddir heddiw yn adlewyrchu’r dystiolaeth eang â ystyriwyd, yn ogystal â chynnig Cynllun Gwaith yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Grŵp. Rydym yn croesawu’r adroddiad yma, sy’n gwneud nifer o argymhellion pwysig. Byddwn nawr yn ystyried yr argymhellion gan ymateb yn llawn maes o law.  

Cost y gwaith oedd £1,860.

Yn y cyfamser hoffwn fynegi ein diolch i Rhodri Llwyd Morgan ac i aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am eu gwaith: 

  • Rhodri Llwyd Morgan, Cadeirydd
  • Sali Burns
  • Y Cyng. Dyfed Edwards
  • Owain Gruffydd
  • Lynne Reynolds 
  • Elin Rhys
  • Yr Athro Elan Closs Stephens