Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r adroddiad cryno o’r ymatebion a ddaeth i law i’r ymgynghoriad cyhoeddus i leihau’r terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya yn 2023.

Cafwyd ychydig dros 6,000 o ymatebion – roedd 47% o blaid gostwng y terfyn cyflymder a 53% yn erbyn. Cafwyd adborth manwl hefyd gan nifer o sefydliadau yng Nghymru. Roedd y mwyafrif o’r rhain – 22 o 25 – yn cefnogi’n fras gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder.

Mae crynodeb o'r ymatebion ar gael yn yr adroddiad 20mya ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus.

Bydd adborth yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried yn ofalus ochr yn ochr ag ymchwil arall i agweddau’r cyhoedd tuag at derfynau cyflymder 20mya, gan gynnwys:

  • Arolwg 20mya o agweddau'r cyhoedd yng Nghymru – roedd 81% o'r bobl a gyfwelwyd yn cefnogi gostyngiad yn y terfyn cyflymder i 20mya;
  • Grwpiau ffocws ar-lein yn cynnwys trigolion o gymunedau a fu'n rhan o'r treialon cychwynnol o derfynau cyflymder diofyn 20mya. Roedd mwyafrif y cyfranogwyr o ardaloedd mwy gwledig yn gryf o blaid y newid. Cafwyd ymateb mwy cymysg mewn lleoliadau trefol. Cytunodd y cyfranogwyr ei bod yn hanfodol rheoli cyflymder cerbydau mewn ardaloedd preswyl.

Bydd yr holl ganfyddiadau hyn, ynghyd ag effaith cyflymder ar ddiogelwch y cyhoedd ac iechyd ehangach pobl a chymunedau yn cael eu hystyried gyda’i gilydd wrth i ni symud ymlaen â deddfwriaeth terfyn cyflymder diofyn 20mya. Fy mwriad yw cyflwyno hyn ym mis Mehefin.

Mae terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt. Mae hefyd yn rhan o Llwybr Newydd, strategaeth Trafnidiaeth Cymru.