Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu aelodau fod CThEM wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf ar CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae’n ofynnol i CThEM adrodd ar y ffordd mae’n gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y ffordd mae CThEM yn gweinyddu CTIC, gan gynnwys:

  • gweithgareddau cydymffurfio (gan gynnwys nodi trethdalwyr yng Nghymru),
  • casglu refeniw CTIC a rhoi cyfrif amdano,
  • gwasanaethau a chymorth i gwsmeriaid,
  • data ar gyfer pennu a rhagolygu CTIC,
  • data ar gyfer rheoli arian Llywodraeth Cymru
  • cost darparu CTIC ac ailgodi tâl am gostau CThEM.  

Mae’r gwaith o weinyddu CTIC bellach wedi symud i gyfnod busnes fel arfer, gan ganolbwyntio ar gynnal a diweddaru systemau a gwella ymwybyddiaeth o CTIC. Fel yr amlinellir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, mae strwythur llywodraethu ffurfiol ar waith i sicrhau bod ansawdd y gwasanaeth mae trethdalwyr Cymru yn ei dderbyn yn gyson, ac i alluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau mewn perthynas â gweithredu CTIC. Mae’r adroddiad ar gael yn:  

Cyfraddau Treth Incwm Cymru – Adroddiad Blynyddol CThEM 2021 (GOV.UK)