Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gofyn i Weinidogion Cymru baratoi cynllun yn esbonio sut y byddant, wrth arfer eu swyddogaethau, yn cynnal ac yn hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru. Gofynnir i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar sut y cafodd y cynigion sydd wedi'u nodi yn y cynllun eu rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a chyflwyno copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'n bleser gennyf gyflwyno'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012-13 i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o'r meysydd lle y mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio'n llwyddiannus â'i gilydd.