Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth ddeng mlynedd “Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed” ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Mae’n gosod agenda genedlaethol glir ar gyfer ymateb i’r problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru a lleihau’r niwed sy’n digwydd yn eu sgil. 
 
Wedi’r newid yn y portffolios Gweinidogol ym mis Mai, fy nghyfrifoldeb i yw’r cyfrifoldeb arweiniol ar gyfer yr agenda camddefnyddio sylweddau, a hynny yn rhinwedd fy swydd fel y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru am ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Mae Pennod Saith, “Cymunedau Mwy Diogel i Bawb” yn disgrifio fy ngweledigaeth o ran gwneud ein cymunedau yn fwy diogel trwy leihau effeithiau’r niwed sy’n deillio o gamddefnyddio sylweddau.

Ni all Llywodraeth Cymru wireddu’r weledigaeth hon ar ei phen ei hun, a rhaid parhau i weithio mewn partneriaeth i sicrhau ein bod yn llwyddo.

Yn ddiweddar, rwyf wedi cyflwyno’r patrwm rhanbarthol y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i wasanaethau cyhoeddus ei ddilyn o ran eu gwaith, gan adeiladu ar ffiniau’r Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau’r heddlu. Mae’r patrwm hwn yn egluro sut y dylai gwasanaethau cyhoeddus fynd ati i gydweithio. Yn y cyfnod hwn o bwysau ariannol parhaus, rwy’n awyddus i sicrhau eu bod yn cryfhau’r trefniadau cydweithio rhanbarthol mewn perthynas â chynllunio, comisiynu, rheoli perfformiad a darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol gan sicrhau’r gwerth gorau am arian, lle bo’n briodol.

Ym maes camddefnyddio sylweddau, mae gennym dystiolaeth sy’n dangos sut y gallai dulliau cydweithio lwyddo trwy sefydlu Byrddau Cynllunio Ardal, ac rwy’n disgwyl i’r Byrddau hyn gryfhau’r trefniadau partneriaeth ar draws y ffiniau rhanbarthol. I hwyluso’r broses hon, rydym wrthi’n cynnal adolygiad o’r Byrddau ar hyn o bryd er mwyn rhannu’r arferion gorau, a nodi’r meysydd lle gallai Llywodraeth Cymru helpu partneriaid i wella dulliau o gydweithio ar lefel ranbarthol.

Mewn cyfnod o gyni economaidd, rhaid i bob partner sicrhau ei fod yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael yn y modd mwyaf effeithiol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso tair blynedd cyntaf ei strategaeth ddeng mlynedd. Bydd y gwerthusiad hwn yn cynnwys dadansoddiad cost a budd i asesu effeithiau’r strategaeth hyd yn hyn. Byddwn hefyd yn adolygu’r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddyrannu arian i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, ac yn adolygu ein Dangosyddion Perfformiad Allweddol i sicrhau bod canlyniadau’n fwy canolog iddynt.

Cyhoeddir rhagor o fanylion ar ôl inni gwblhau’r gwaith allweddol hwn. Yn y cyfamser, gallaf gadarnhau ein hymrwymiad i ganolbwyntio mwy ar sicrhau rhagor o ganlyniadau triniaeth; amddiffyn plant rhag rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau; a lleihau nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.  

Yn yr adroddiad amgaeëdig, mae crynodeb o’r llwyddiant a gafwyd o ran gweithredu’r strategaeth newydd a sut mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid wedi cyflawni’r prif gamau gweithredu a nodir yn y cynllun cyflawni ar gyfer y tair blynedd cyntaf.