Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2008, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ddeng mlynedd, sef “Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed", i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau. Mae'r strategaeth yn gosod agenda genedlaethol glir ar gyfer ymateb i’r problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a lleihau’r niwed sy’n digwydd yn eu sgil. Mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd yr agenda heriol hon.

Ym mis Chwefror 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei ‘Gynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2013-15’, sy'n cefnogi'r strategaeth ac yn pennu'r camau gweithredu sy'n cael eu rhoi ar waith dros y cyfnod hwnnw i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. O ystyried yr effaith y mae camddefnyddio sylweddau'n ei gael ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, mae'n rhan bwysig o'm portffolio. Gan hynny, mae’n rhaid i ymrwymiadau'r cynllun cyflawni gael eu gweithredu'n unol â'r agenda gofal iechyd darbodus yr ydym yn ei dilyn yng Nghymru.

Mae'r ffordd y mae gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi'u llunio a'u darparu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn cynnig tystiolaeth dda o'r arferion gofal iechyd darbodus sydd ar waith. Mae gofal iechyd darbodus wedi'i ddatblygu ar sail set o egwyddorion sy'n ail-lunio'r berthynas rhwng defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau o ran cydgynhyrchu; gan sicrhau bod y ddau yn bartneriaid cyfartal yn achos unrhyw driniaeth a gaiff ei darparu. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid inni ddefnyddio adnoddau mewn modd effeithiol drwy ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy'n cael eu darparu gan ystod eang o weithwyr proffesiynol. Mae'r agenda camddefnyddio sylweddau wedi'i seilio ar sicrhau bod anghenion defnyddwyr y gwasanaethau yn cael eu hystyried o'r cychwyn, a bod y gwasanaethau'n cael eu darparu gan weithwyr proffesiynol yn y sector statudol a'r trydydd sector. Mae'r agenda honno'n enghraifft dda o sut mae'r egwyddorion yn sail i'r gwasanaethau a ddarperir, a sut mae hynny, fel canlyniad, wedi gwella cyfraddau ar gyfer triniaethau, a'r amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth. Gwyddom, er enghraifft, fod hwn yn faes sydd wedi gweld rhai gwasanaethau'n cael eu darparu'n llwyddiannus gan weithwyr ym maes camddefnyddio sylweddau nad ydynt yn rhai clinigol, sydd yn unol â'r egwyddor 'o wneud yr hyn y gallwch ei wneud'.

Ar y cyd â'n partneriaid sy'n darparu gwasanaethau, byddwn yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r ffordd y mae gofal iechyd darbodus yn dylanwadu ar wasanaethau camddefnyddio sylweddau yn y dyfodol. Byddwn yn atgyfnerthu hynny drwy gyhoeddi ein canllawiau diwygiedig ar ‘Gomisiynu Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau’ ar gyfer Byrddau Cynllunio Ardal yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Mae Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau 2014 a gyhoeddwyd heddiw yn amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i gyflawni nifer o gamau gweithredu allweddol wrth weithredu'r strategaeth. Mae sicrhau bod y rhai hynny sy'n defnyddio'r gwasanaethau'n parhau â'u triniaeth er mwyn cynnal adferiad o'u dibyniaeth yn un o flaenoriaethau ein hamcanion. Yn dilyn lansio'r 'Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau' ym mis Chwefror 2014 rydym wedi gweithio ar y cyd ag ymarferwyr i ddatblygu a chyflwyno fesul cam hyfforddiant 'Rhoi'r Theori ar Waith' ar gyfer comisiynwyr a darparwyr, er mwyn sicrhau bod dulliau sy'n seiliedig ar adferiad yn cael eu hintegreiddio'n llawn i'r gwasanaethau craidd sy'n trin camddefnyddio sylweddau. Caiff hyn ei ategu gan yr hyfforddiant sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o systemau gofal sy'n canolbwyntio ar adferiad. Bydd yr hyfforddiant hwnnw'n parhau i sicrhau bod y rhai hynny sy'n dibynnu ar wasanaethau trin camddefnyddio sylweddau, ac sy'n eu darparu, yn llunio'r ffordd y mae'r fframwaith hwnnw'n cael ei weithredu.

Rydym hefyd wedi datblygu ‘Fframwaith Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaeth’ diwygiedig gyda chyfranogiad gan Fudiad Defnyddwyr Gwasanaethau Cymru Gyfan, a'r saith Bwrdd Cynllunio Ardal, er mwyn sicrhau bod gan ddefnyddwyr gwasanaethau ran arwyddocaol yn y broses wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Bydd gweithredu'r fframwaith hwn yn sicrhau bod egwyddorion cydgynhyrchu’n cael eu hymgorffori yn y gwaith yr ydym yn ei wneud.

Rydym eisoes wedi datgan ein hymrwymiad i gefnogi cymuned y lluoedd arfog, a'n nod i sicrhau bod yr anfanteision y mae cyn-filwyr yn eu hwynebu o'u cymharu â dinasyddion eraill wrth geisio cael mynediad at wasanaethau'n cael eu hunioni. Felly, mae canllawiau newydd wedi'u cyhoeddi eleni, sy'n anelu at hwyluso'r gwaith o nodi cyn-filwyr â phroblemau camddefnyddio sylweddau a'i gwneud yn haws iddynt gael gafael ar driniaeth.

Mae lleihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, sy'n cynnwys marwolaethau o ganlyniad i wenwyno cysylltiedig â chyffuriau a marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau, yn dal i fod yn flaenoriaeth, o ystyried yr effaith enbyd ar deuluoedd a'r gymuned ehangach. Gwyddom fod modd atal y rhan fwyaf o'r marwolaethau hyn, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar ymgymryd ag adolygiadau systematig ar gyfer achosion o wenwyno angheuol a heb fod yn angheuol, er mwyn sicrhau y gallwn ostwng nifer y marwolaethau ymhellach.

Eleni, daeth Prosiect Mentora Cymheiriaid Cronfa Gymdeithasol Ewrop i ben. Erbyn diwedd y prosiect llwyddiannus, roedd wedi cefnogi 11,199 o gyfranogwyr i gael hyfforddiant neu waith cyflogedig. Roedd gwerthusiad annibynnol cadarnhaol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014, yn amlinellu'r nifer o straeon o fywyd go iawn a oedd yn dangos sut mae'r cynllun wedi helpu i drawsnewid bywydau pobl. Rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn datblygu llwyddiant y prosiect. Felly, rydym wrthi'n gweithio ar hyn o bryd ar y cynnig ar gyfer cylch nesaf cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop i gefnogi pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl yn y gweithle, a’u cefnogi i fynd yn ôl i'r gwaith.

Mae lleihau'r problemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol yn dal i fod yn flaenoriaeth. Rwy’n benderfynol o ddefnyddio'r holl ddulliau polisi sydd ar gael inni yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol. Mae tystiolaeth sylweddol i ddangos bod pris alcohol yn bwysig. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod marwolaeth a salwch yn sgil alcohol wedi codi’n sylweddol wrth i alcohol ddod yn fwyfwy fforddiadwy yn ddiweddar. Fel rhan o'n strategaeth ehangach i leihau camddefnyddio alcohol, rydym wedi cynnwys cynnig i gyflwyno isafswm pris alcohol o 50c fesul uned ym Mhapur Gwyn Iechyd y Cyhoedd, sef ‘'Gwrando arnoch chi: Mae eich iechyd yn bwysig' ’. Cafwyd 140 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a oedd yn dangos cefnogaeth eang o blaid cyflwyno isafswm pris ar gyfer uned o alcohol yng Nghymru. Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd adroddiad gan y Panel Cynghori annibynnol ar Gamddefnyddio Sylweddau a oedd yn argymell cyflwyno isafswm pris uned o alcohol fel mesur a fyddai'n targedu'r bobl hynny sy'n yfed gormod ac yn dioddef y problemau iechyd mwyaf. Mae'r adroddiad hwn yn ychwanegu at sylfaen y dystiolaeth ar gyfer y polisi hwn, a bydd yn sail i'r elfen sy'n ymwneud ag alcohol ym Mil arfaethedig Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

Rydym yn parhau i gydweithio â phartneriaid i ymdrin â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, a byddwn yn parhau i wynebu heriau sylweddol yn y flwyddyn sydd i ddod.

Rwy wedi gofyn i'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau ystyried yr ymatebion i'r polisi sy'n ymwneud â'r cynnydd mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â tramadol a meddyginiaethau eraill a geir ar bresgripsiwn yn unig.

Byddwn yn cyhoeddi fframwaith gwasanaethau diwygiedig hefyd i ddiwallu anghenion pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau ar y cyd â phroblemau iechyd meddwl. Yn ychwanegol at hynny, byddwn yn datblygu fframwaith ar gyfer ailsefydlu cleifion mewn cyfleusterau preswyl, er mwyn sicrhau bod y rhai hynny sy'n camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn cael triniaethau a chymorth o safon.

Mae'r adroddiad sydd wedi'i atodi'n dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud i weithredu ein strategaeth ddeng mlynedd ar gamddefnyddio sylweddau a'r cynllun cyflawni cysylltiedig dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae mynd i'r afael â'r problemau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Drwy barhau i fuddsoddi yn agenda camddefnyddio sylweddau, gan wneud mwy i sicrhau bod egwyddorion gofal iechyd darbodus yn rhan annatod o'r gwaith, a chan barhau i gydweithredu â phartneriaid ar hyd a lled Cymru, byddwn yn parhau i wneud cynnydd yn y maes pwysig hwn.