Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi’r Adroddiad Cynnydd a Rhagolwg Cynhwysiant Digidol.

Mae’r Adroddiad Cynnydd yn rhoi crynodeb o’r gwaith pwysig sydd wedi digwydd yn y ddwy flynedd ers cyhoeddi’r Fframwaith Strategol a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol.

Er bod cynnydd da wedi cael ei wneud o ran allgau digidol, mae her yn dal i fodoli o ran helpu pobl i oresgyn rhwystrau diffyg cymhelliant, sgiliau a hyder i allu gwella’u bywydau trwy dechnoleg ddigidol. Mae ein rhaglen cynhwysiant digidol bwrpasol, Cymunedau Digidol Cymru, wedi darparu rôl gydgysylltu bwysig mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae’r Adroddiad Cynnydd yn ein hatgoffa bod mynd i’r afael ag allgau digidol yn dal i fod yn rhan hanfodol o greu cymdeithas gyfartal lle mae gan bawb yr un cyfle i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus ar-lein; dod o hyd i waith a symud ymlaen yn eu gwaith; gwella’u cyfleoedd dysgu; ac arbed arian trwy brynu nwyddau a gwasanaethau ar-lein sy’n aml yn rhatach.

Rwyf wedi gweld a chlywed am yr enghreifftiau gwych o effaith drawsnewidiol ein gwaith ym maes cynhwysiant digidol ar fywydau pobl. Mae pobl wedi dysgu sut i ddefnyddio technoleg ac mae hyn, yn ei dro, wedi lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd trwy eu helpu i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu neu ddod o hyd i rwydweithiau cymorth ar-lein newydd.
 
Mae ein Harwyr Digidol ifainc anhygoel yn parhau i drosglwyddo’u sgiliau digidol i’r rhai mewn angen, yn aml mewn cartrefi gofal neu ysbytai. Mae’r gwaith gyda a thrwy ysgolion, megis Ysgol Gynradd Griffithstown ym Mhont-y-pŵl, wedi helpu i amlygu’r effaith gadarnhaol ar y gymuned y gellir ei chael trwy’r prosiectau hyn sy’n pontio’r cenedlaethau.

Wrth inni droi ein golygon tuag at y deuddeg mis nesaf, bydd ein ffocws ar barhau i archwilio ffyrdd arloesol o ennyn ymgysylltiad pobl ifanc o ran trosglwyddo sgiliau i’r rhai y mae arnynt angen cymorth. Gan gydweithio’n agos gyda Chydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), byddwn yn parhau i hyrwyddo Briff yr Her Gymunedol Cynhwysiant Digidol yn ein cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad pellach o ran datblygu a chefnogi’r rhwydwaith cynyddol o fwy na 600 o Arwyr Digidol ledled Cymru. Mae’r Arwyr Digidol hyn yn amrywio o blant ysgolion cynradd ac uwchradd i Gadetiaid yr Heddlu, sgowtiaid, geidiau a myfyrwyr colegau, sydd oll yn amcanu at gynorthwyo a chymell mwy o bobl i ddefnyddio technolegau digidol mewn ffyrdd sy’n gwella’u bywydau.

Trwy ein gwaith gyda phobl ifanc byddwn yn parhau i annog merched i ystyried gyrfaoedd mewn rolau STEM yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn cynorthwyo mwy o fenywod ifainc i symud i swyddi ym maes Technoleg trwy brentisiaethau, y mae’n rhaid ei wneud er mwyn i’r galw am sgiliau Technoleg ar bob lefel yn y dyfodol gael ei ateb.

Gwyddom fod 60% o’r rhai sy’n 75 oed a throsodd a 25%1  o bobl anabl yn dal wedi’u hallgau’n ddigidol. Mae’r bobl hyn hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol na gweddill y boblogaeth. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi anogaeth ar gyfer mwy o weithgareddau cynhwysiant digidol fel rhan o’n gwaith trawsnewid iechyd digidol, ar draws ystod o leoliadau iechyd. Mae hyn yn gyson â nodau ein Strategaeth Iechyd a Gofal Gwybodus.

Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddarparu’r arweinyddiaeth strategol ar gyfer y gwaith hwn. Fodd bynnag, mae angen i bob sector, y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, yn ogystal â’r gymdeithas ehangach, sefydlu gweithgareddau cynhwysiant digidol fel blaenoriaeth. Yr her o hyd yw cymell y rhai sy’n dal yn gyndyn o ddefnyddio technolegau digidol neu sydd â diffyg hyder i geisio gwneud mwy ar-lein er mwyn iddynt gael y budd mwyaf posibl o wasanaethau digidol. Byddwn yn parhau i ystyried ffyrdd o gryfhau ein gwaith mewn partneriaeth ymhellach er mwyn cynorthwyo unigolion i gofleidio technoleg a’n helpu i greu Cymru sy’n fwy cynhwysol yn ddigidol.

http://gov.wales/topics/science-and-technology/digital/digital-inclusion/?lang=cy 

1Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17