Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf heddiw yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2010-15.

Lansiwyd Cynllun Gweithredu'r Strategaeth ym mis Tachwedd 2010 ac mae'n strategaeth ar y cyd rhwng Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Adran Addysg a Sgiliau. 

Mae'r Cynllun Gweithredu yn canolbwyntio ar bobl ifanc a sut y'u cymerir ar daith entrepreneuriaeth - gan godi eu hymwybyddiaeth, datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, tanio syniadau a darparu gwybodaeth a chymorth ymarferol i'r rhai sydd am gychwyn busnes.  Yn ogystal, mae gan dair cynulleidfa strategol - addysg, busnes a'r gymuned - oll ran hanfodol i'w chwarae i gefnogi pobl ifanc.

Rhoi'r Cynllun Gweithredu ar Waith:

Caiff cynnydd ei fesur yn erbyn y 10 Cam Gweithredu a nodwyd yn y Cynllun.  Ymhlith yr Uchafbwyntiau Allweddol yn ystod 2012-13 mae:

Cam Gweithredu 1: Lansio Syniadau Mawr Cymru fel ymgyrch i ymgysylltu â phobl ifanc a phartneriaid a thanio eu brwdfrydedd

Lansiwyd Syniadau Mawr Cymru yn swyddogol yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd ym mis Tachwedd 2010.  Yn ystod 2012-13, rhagorwyd ar y targed pum mlynedd, gyda chynnydd o 71% yn nifer y sesiynau ar www.SyniadauMawrCymru.com o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rhoddodd 35,050 o sesiynau wybodaeth i bobl ifanc a oedd yn ystyried cychwyn busnes. Cwblhaodd 6,848 o bobl ifanc hunanasesiad ar-lein i brofi eu sgiliau entrepreneuraidd, cynnydd o 77% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Cam Gweithredu 2: Darparu gweithgareddau a digwyddiadau wedi'u targedu i ennyn diddordeb a chyfranogiad ym maes entrepreneuriaeth, yn enwedig i'r rheini sy'n ddi-waith a/neu'n economaidd anweithgar

Mae gweithwyr ieuenctid yn cefnogi datblygiad entrepreneuriaeth pobl ifanc.  Er mwyn cydnabod y cyfraniad hwn, ceir categori ar gyfer prosiect entrepreneuriaeth ieuenctid eithriadol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yng Nghymru 2014.

Datblygwyd Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid sy'n seiliedig ar anghenion pobl ifanc, gan atgyfnerthu atebolrwydd asiantaethau gwahanol yn y system ar gyfer sicrhau canlyniadau gwell i bobl ifanc.  

Cam Gweithredu 3: Annog busnesau i ymgysylltu â phobl ifanc a'r byd academaidd

Lansiwyd rhaglen ariannu tair blynedd i ddarparu Gwasanaethau Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2013. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Modelau Rôl, ymgyrch a digwyddiadau Syniadau Mawr Cymru, Cysgodi Entrepreneuraidd, Cystadleuaeth Gynradd Genedlaethol ac her o dan arweiniad busnesau i entrepreneuriaid ifanc uchelgeisiol.

Datblygwyd gwefan Arbenigedd Cymru yn sylweddol.  Cedwir 500 o gofnodion academaidd ar y gronfa ddata a lansiwyd y ffurflen gais ar-lein ar gyfer Talebau Arloesedd. Mae'r Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth yn parhau'n llwyddiannus.

Cam Gweithredu 4: Darparu canllawiau ar-lein i ysgolion a Sefydliadau Addysg Bellach ar ddysgu a datblygu entrepreneuriaeth

Cyhoeddwyd canllawiau ar-lein i ysgolion, colegau a darparwyr dysgu eraill ar ddysgu a datblygu ym maes addysg entrepreneuriaeth ar wefan Llywodraeth Cymru i'w defnyddio gan ysgolion a cholegau o fis Rhagfyr 2012.  

Lansiwyd Canolfan DPP Entrepreneuriaeth Genedlaethol ym mis Mawrth 2013 i sicrhau dull gweithredu Cymru gyfan mewn perthynas â datblygu addysgu a dysgu entrepreneuraidd.

Cam Gweithredu 5: Sicrhau bod cymaint o gyfleoedd dysgu drwy brofiad â phosibl ar gael i bobl ifanc ymwneud ag entrepreneuriaeth ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol

Lansiwyd Academi Entrepreneuriaeth Cymru gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ym mis Hydref 2012.  Mae'r Academi yn canolbwyntio'n llwyr ar ddatblygu ac ehangu dyheadau entrepreneuriaid ifanc rhwng 16 ac 19 oed gyda chymorth entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes ledled Cymru.

Dechreuodd rhaglen ariannu tair blynedd ar gyfer entrepreneuriaeth i gefnogi'r chwe Chanolfan AB/AU Ranbarthol ym mis Medi 2012. Gan gydweithredu, mae hyrwyddwyr entrepreneuriaeth ymhob Sefydliad Addysg Bellach (AB) ac Addysg Uwch (AU) ledled Cymru yn ysgogi diddordeb a chyfranogiad ym maes entrepreneuriaeth, yn darparu profiadau ymarferol ac yn hyrwyddo llwybr clir i gychwyn busnes.

Sefydlwyd rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint gan bartneriaid rhanbarthol allweddol i hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid. Cynhaliwyd digwyddiad cychwynnol i entrepreneuriaid ifanc ym mis Tachwedd 2012.

Cam Gweithredu 6: Hyrwyddo rhagoriaeth ym maes dysgu entrepreneuraidd ac arweinyddiaeth drwy rannu a meincnodi arfer da yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos â grŵp arbenigol y Comisiwn Ewropeaidd ar ddata a dangosyddion ar ddysgu entrepreneuraidd.
Mae partneriaeth ADEPTT yn dod â 13 o bartneriaid o wyth gwlad (Sbaen, Gwlad yr Iâ, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Cymru, Lloegr, Portiwgal, yr Almaen a Norwy) i gyfnewid arferion gorau o wahanol ranbarthau er mwyn datblygu a threialu model hyfforddiant arloesol sy'n cyfrannu at gefnogi a gwella arfer addysgu entrepreneuraidd.  

Cam Gweithredu 7: Paratoi pobl ifanc i gymryd y camau nesaf tuag at gychwyn busnes

Mae gweithdai â ffocws penodol, ardaloedd menter a rhaglenni cymorth cam cynnar o fewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn darparu amgylchedd i bobl ifanc nodi syniadau entrepreneuraidd ac ymchwilio iddynt.

Mae GO Wales wedi cynnig y cyfle i 1,012 o fyfyrwyr a graddedigion ifanc ymgymryd â phrofiad gwaith â thâl yn seiliedig ar brosiectau neu hyfforddiant mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae cyrsiau hyfforddiant Academi Freelancer GO Wales wedi helpu 35 o raddedigion ifanc i feithrin y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu syniad busnes.

Mae Rhaglen Fenter Prince's Trust yn helpu pobl ifanc ddi-waith rhwng 18 a 30 oed i benderfynu p'un a yw eu syniadau busnes yn hyfyw ac ai hunangyflogaeth yw'r dewis cywir iddynt hwy.  Mae 325 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen pedwar diwrnod 'Exploring Enterprise'.

Cam Gweithredu 8: Helpu pobl ifanc i ddod yn hunangyflogedig

Mae Gwasanaeth Cychwyn Busnes Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ddarpar entrepreneuriaid.  Mae contractau ar waith i ddarparu gwasanaethau cychwyn busnes ledled Cymru, gan gynnwys bwrsarïau ariannol i raddedigion sy'n anelu at gychwyn busnes gyda'r potensial i dyfu.  

Mae bwrsari entrepreneur ifanc werth £6,000 ar gael fel rhan o Dwf Swyddi Cymru wedi'i anelu at bobl ifanc ddi-waith rhwng 16 a 24 oed sy'n mynd ati i gychwyn busnes.
Ers Awst 2013 mae 122 bwrsari wedi ei gadarnhau.

Cam Gweithredu 9: Canolbwyntio gwasanaethau cymorth ar fusnesau newydd uchel eu potensial mewn sectorau blaenoriaeth allweddol ac ymhlith graddedigion

Mae'r prosiect peilot Busnesau Newydd Uchel eu Potensial (HPS) i sefydlu a chefnogi busnesau twf uchel newydd wedi bod yn hynod lwyddiannus.  Crëwyd cysylltiadau â Sefydliadau Addysg Uwch er mwyn nodi a recriwtio busnesau ac entrepreneuriaid ifanc.   Mae graddedigion a gaiff eu recriwtio i'r Rhaglen HPS yn cael cymorth personol dwys a mynediad i gynllun cymorth Bwrsariaeth i Raddedigion Llywodraeth Cymru.

Datblygwyd Alacrity mewn cydweithrediad â Wesley Clover i roi goruchwyliaeth ddwys a hyfforddiant i raddedigion talentog, i'w galluogi i ddod yn entrepreneuriaid a sefydlu cwmnïau newydd er mwyn gwireddu'r cyfleoedd masnachol sy'n gysylltiedig â chynhyrchion/datrysiadau TGCh newydd. Agorwyd Adeilad Alacrity yng Nghasnewydd yn swyddogol gan y Gweinidog ym mis Medi 2012.  Mae 14 o raddedigion yn gweithio gyda busnesau gan gynnwys Vodaphone, BT a Fuji fel rhan o bedwar tîm prosiect.  

Cam Gweithredu 10: Defnyddio profiad ac arbenigedd y gymuned fusnes i helpu entrepreneuriaid ifanc

Datblygwyd gwasanaeth mentora busnes i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru ac fe'i lansiwyd ym mis Hydref 2012. Caiff mentoriaid eu recriwtio ar hyn o bryd a'u paru ag unigolion a gaiff eu mentora.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyllid grant i alluogi'r Prince's Trust i gyflwyno ei Grantiau 'Will it Work', Benthyciadau Cychwyn Busnes a'r Grant Cychwyn Busnes.   Mae 96 o bobl ifanc wedi cael cymorth gan fentoriaid gwirfoddol y Prince's Trust i ystyried cychwyn busnes.

Yr effaith hyd yn hyn:

Mae nifer o arolygon allweddol wedi amlygu cynnydd y Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid.

Newid Agweddau 
Mae 53% o bobl ifanc o dan 25 oed bellach yn awyddus i weithio iddynt hwy eu hunain a bod yn feistr arnynt eu hunain, sy'n gynnydd o 42% yn 2004 (Arolwg Omnibws Cymru 2013).

Meithrin Sgiliau  
Cynyddodd y gyfradd ymgysylltu myfyrwyr o 23% yn 2010 i 26% yn 2012.  Yn Lloegr, cynyddodd y gyfradd ymgysylltu myfyrwyr o 16% i 18% dros yr un cyfnod.  (NCEE Menter ac Entrepreneuriaeth ym maes Addysg Uwch 2012)


Entrepreneuriaeth Cam Cynnar a Chychwyn Busnes
Nododd Adroddiad Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (GEM) 2013 fod 9.5% o bobl ifanc yng Nghymru yn ymgymryd â gweithgarwch entrepreneuraidd cam cynnar yn 2012. Nodwyd mai cyfradd y DU oedd 8.3% yn 2012.

Noda'r Arolwg Rhyngweithio Busnes Addysg Uwch - Busnes a’r Gymuned (HEBCIS) 2013 fod prifysgolion yng Nghymru yn cyfrif am 5% o boblogaeth Addysg Uwch y DU, ond bod 9.1% o'r holl fusnesau a gaiff eu cychwyn gan raddedigion yn y DU ac 11.33% o'r cwmnïau gweithredol sy'n para am dair blynedd neu fwy yn dod ohonynt.


Panel Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid

Sefydlwyd Panel Cynllun Gweithredu'r Strategaeth yn 2011 i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd, darparu arweiniad ac arbenigedd strategol a rhoi cyngor ar y ffordd orau o adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd. Penodwyd y Panel am gyfnod o ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw, cytunodd ar fframwaith gwerthuso a map llwybr ar gyfer gweithredu.  Caiff hyn ei ddatblygu i'w ymgorffori wrth ailddylunio gwefan Syniadau Mawr Cymru, y bwriedir ei wneud yn ystod 2014.  Caiff gwaith Panel y Strategaeth ei gyflawni fel rhan o Banel Entrepreneuriaeth cyffredinol unigol sydd wedi ei benodi gan Weinidog yr Amgylchedd, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Dan Gadeiryddiaeth James Taylor bydd yr aelodaeth a’r apwyntiadau yn cael eu cadarnhau mis yma.

Ceir rhagor o fanylion am Gynllun Gweithredu'r Strategaeth ar www.syniadaumawrcymru.com