Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU dan gadeiryddiaeth Paul Silk, wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf heddiw.

Mae’n rhy fuan, wrth gwrs, i roi ymateb llawn i’r ddogfen gynhwysfawr iawn hon, a byddwn yn ystyried cynigion y Comisiwn yn fanwl dros y misoedd nesaf.  Rwy’n hynod ddiolchgar, fodd bynnag, i aelodau’r Comisiwn am eu gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwy’n arbennig o falch bod yr adroddiad yn datgan barn unfrydol, a bod cynrychiolwyr y pedair plaid wleidyddol ar y Comisiwn wedi gallu cytuno ar safbwynt cyffredin.  

Mae’n amlwg bod yr adroddiad hwn – ynghyd â’r datganiad ar ddiwygio’r drefn ariannol a gyhoeddwyd ar y cyd â Llywodraeth y DU fis diwethaf – yn cynnig sylfaen gref ar gyfer creu consensws newydd, trawsbleidiol ar drywydd y diwygiadau ariannol a gyflwynir yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â’r Pleidiau eraill yng Nghymru a chyda Llywodraeth y DU i gyflwyno diwygiadau sy’n seiliedig ar gonsensws, cynnig gwell bargen i Gymru a gwella’r setliad datganoli o fewn Teyrnas Unedig gryfach.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymateb mwy cynhwysfawr mewn Datganiad Llafar i’r Cynulliad ar 27 Tachwedd.