Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Rhagfyr 2015, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Arbenigol ar Ddarparu Tai ar gyfer Poblogaeth sy’n Heneiddio.  Diben y Grŵp, a gafodd ei sefydlu am gyfnod penodol yn unig, oedd cyflwyno cynigion ymarferol y gellid eu rhoi ar waith er mwyn cynghori ar bolisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phoblogaeth sy’n heneiddio.

Cyhoeddwyd Datganiad Ysgrifenedig ar 10 Rhagfyr 2015, gyda manylion aelodaeth y Grŵp a derbyniodd Aelodau Cynulliad lythyr ym mis Mawrth 2016 yn olrhain rhaglen waith y Grŵp.

Rwy’n falch o allu rhoi gwybod i Aelodau Cynulliad bod y Grŵp bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, Tai i’r Dyfodol, diwallu dyheadau pobl hŷn Cymru i mi ac fy mod wedi ei gyhoeddi ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru.

Hoffwn achub ar y cyfle yma i ddiolch i’r Athro Judith Phillips, OBE, Dirprwy Brifathro, Prifysgol Stirling, am gadeirio’r Grŵp. Rwyf yr un mor ddiolchgar i bob aelod arall o’r Grŵp am fod mor barod i ymgymryd â’r her ac am rannu eu harbenigedd a’u gwybodaeth er mwyn helpu i lywio polisi ar y materion hyn i’r dyfodol.   Roedden ni’n ffodus o fedru cynnull grŵp arbennig a oedd yn medru cynrychioli amrywiaeth o sectorau, proffesiynau a safbwyntiau. Rwy’n falch hefyd fod pobl hŷn eu hunain wedi cael cyfle i gyfrannu at waith y Grŵp drwy ei weithgarwch ymgysylltu.

Wrth i’r boblogaeth heneiddio, byddwn yn gweld nifer o gyfleoedd, yn ogystal â heriau. Rwy’n croesawu’r adroddiad yma sy’n cynnig barn rhai arbenigwyr i ni ar y rôl y mae angen i dai ei chwarae yng nghyd-destun y newid demograffig y bydd Cymru yn ei phrofi dros y blynyddoedd nesaf. Wrth i ddisgwyliad oes pobl gynyddu, mae angen inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn gallu byw bywydau iach a chyflawn cyn hired â phosib. Mae’r adroddiad yn pwysleisio bod hyn yn rhywbeth y mae angen i bob un ohonom feddwl mwy amdano. Mae’r Grŵp hefyd yn tynnu ein sylw at y manteision ehangach i’r system dai yng Nghymru yn sgil ymdrech ymwybodol i ehangu’r dewis o dai ar gyfer pobl hŷn.

Mae angen i ni wneud yn siŵr bod ein stoc o dai yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol ac mae hyn yn golygu ymateb, nid yn unig i anghenion poblogaeth sy’n heneiddio ond hefyd i ddyheadau poblogaeth sy’n heneiddio. Mae’r adroddiad yma’n ein helpu i ddeall yr anghenion a’r dyheadau hynny.  Mae hefyd yn tynnu sylw at yr amrywiaeth o asiantaethau – cyhoeddus a phreifat – sydd â chyfraniad i’w wneud wrth sicrhau bod yna “gynnig” gwell o ran tai yng Nghymru.

Mae’r adroddiad yn mynd i’r afael â 5 thema allweddol y gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

  • Deall gofynion tai pobl hŷn
  • Cefnogi’r dewisiadau cywir – “aros yn y fan a’r lle” neu “symud ymlaen”
  • Byw’n hyderus wrth fynd yn hŷn – sy’n cwmpasu dylunio a thechnoleg
  • System gynllunio sy’n adlewyrchu anghenion poblogaeth sy’n heneiddio 
  • Gwneud tai yn fwy fforddiadwy a chymell newid 


Mae’r adroddiad yn cynnig nifer o gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, cymdeithasau tai ac adeiladwyr tai masnachol. O ystyried natur drawsbynciol argymhellion yr adroddiad, mae angen iddynt gael eu hystyried yn ofalus a chan rannau gwahanol o’r Llywodraeth. Byddaf yn ystyried y cynigion yn fwy manwl ac yn sicrhau bod Aelodau Cynulliad yn cael gwybodaeth am y camau nesaf maes o law.

http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/housing-supply/expert-group-on-housing-an-ageing-population/?skip=1&lang=cy