Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy'n croesawu Adroddiad Gareth Williams ar Wella a Chynyddu'r Cymorth i Ffermwyr a Choedwigwyr Cymru.  Mae'r adolygiad annibynnol hwn o Cyswllt Ffermio, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, yn ystyried y dull arfaethedig o drosglwyddo gwybodaeth, cyngor ac arloesedd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020.  

Mae adroddiad Gareth Williams yn gwneud nifer o argymhellion clir, sydd o gymorth i weld yr hyn y dylai'r rhaglen Cyswllt Ffermio ei gynnwys, ac rwyf wedi derbyn ei argymhellion.  Mae fy swyddogion wedi paratoi cynllun gweithredu i sicrhau bod yr argymhellion hyn yn cael eu gweithredu yn effeithiol ac mewn pryd, gan gydweithio'n agos â rhanddeiliaid y diwydiant.  Yn bennaf, caiff yr argymhellion eu darparu drwy Gynllun Datblygu Gwledig 2014-2020.

Mae Cyswllt Ffermio yn frand cryf y gellir ymddiried ynddo, yr wyf am ei weld nid yn unig yn parhau, ond yn tyfu, gan sicrhau ei fod ar gael i ragor o bobl.  Mae trosglwyddo gwybodaeth ac arloesedd yn hollbwysig, er mwyn i'r diwydiant amaethyddol fod yn fwy proffesiynol, gan sefydlu diwylliant o ddatblygiad proffesiynol parhaus a chanolbwyntio mwy ar ffermio fel busnes.  Mae'n hanfodol bod ffermwyr, coedwigwyr a busnesau bwyd yn manteisio ar y cyfleoedd y bydd y Cynllun Datblygu Gwledig newydd yn gyffredinol, a Chyswllt Ffermio yn benodol, yn ei  ei gynnig.  

Rwy'n dymuno nodi fy niolchiadau diffuant i Gareth Williams ac eraill a fu'n fy nghynorthwyo i lywio'r gwaith pwysig hwn.