Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r manylion diweddaraf am waith Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi. Mae’r Grŵp wedi gorffen eu gwaith ac wedi ysgrifennu adroddiad yn cyflwyno’u hargymhellion.

Mae 26 o argymhellion yn yr adroddiad, o dan dair thema, sef Datblygu Busnes, Datblygu Pobl a Datblygu’r Ardal. Mae’r argymhellion yn cyffwrdd â nifer o feysydd cyfrifoldeb Gweinidogol a sefydliadol.

Sefydlais Grŵp Gorchwyl a Gorffen Dyffryn Teifi ar 25 Mehefin 2013 i ystyried sur y gellid cymhwyso’r model ardal twf lleol i Ddyffryn Teifi. Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried opsiynau polisi a fyddai’n creu a chynnal swyddi a thwf economaidd ac yn cynnig cyfle i brofi gwahanol ymyriadau a fyddai’n ystyriol o amgylchiadau economaidd lleol y Dyffryn, yr heriau o ran sicrhau twf economaidd a’r defnydd amlwg o’r Gymraeg yn yr ardal.
Cadeiriwyd y Grŵp gan Delyth Humfryes MBE, sydd hefyd yn Gadeirydd Undeb Credyd Gorllewin Cymru, a’r aelodau oedd Kevin Davies, Cawdor Cars, Laurence Harris, Daioni-Trioni; Carwyn Adams, Caws Cenarth; Jayne Ludgate, Arcade; Dafydd Lewis, WD Lewis & Son a Cris Tomos, Castell Aberteifi. Hoffwn ddiolch o bob un ohonynt am eu cyfraniad.
I lywio’u gwaith o lunio’r adroddiad a’r argymhellion, fe gynhaliodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen nifer o sesiynau i gael tystiolaeth lafar, ac fe wnaethon nhw gais agored am dystiolaeth yn ogystal â chomisiynu cyfres o gyfweliadau ffôn gyda busnesau lleol.  Roedd yr ymateb a gawsant yn dangos bod gwaith y Grwp wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ym mhlith y busnesau a rhanddeiliaid lleol.

Yn awr bydd y gwaith yn dechrau i asesu effeithiau a chostau posibl yr argymhellion. Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer sylwadau.

Mae rhai o’r argymhellion yn perthyn i nifer o bortffolios Gweinidogol, ac rwyf wedi ysgrifennu at fy nghydweithwyr perthnasol yn y Cabinet.

Bydd angen i Gynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ystyried rhai o’r argymhellion eraill, a byddaf yn ysgrifennu at Arweinwyr y Cynghorau hynny i dynnu eu sylw nhw at yr adroddiad.

Cymerir yr holl sylwadau a chyfraniadau i ystyriaeth yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. Bwriadaf gyhoeddi hwnnw cyn Toriad yr Haf.